Bydd arddangosfa newydd yn Sain Ffagan yn adrodd hanes aelodau cenhedlaeth Windrush a wnaeth ymgartrefu yng Nghymru.

Fe fydd Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes yn Amgueddfa Werin Cymru rhwng Hydref 2 a 31, cyn teithio i amgueddfeydd cenedlaethol eraill Cymru.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys straeon dros 40 o Genhedlaeth Windrush Cymru yn eu geiriau eu hunain.

Bydd modd dysgu am eu teithiau i Gymru a’r heriau o fyw mewn gwlad mor bell i ffwrdd wrth ddod o hyd i waith ac wrth wynebu agweddau pobol tuag atyn nhw.

Mae’r hanesion hefyd yn dangos sut mae Cenhedlaeth Windrush Cymru a’u disgynyddion wedi gwneud eu marc ar bob agwedd o fywyd Cymru trwy eu swyddi a’u gyrfaoedd, trwy fagu plant a thrwy gyfrannu at ein cymunedau ac ein diwylliant.

Cenhedlaeth Windrush

Yn 1948, cyrhaeddodd yr Empire Windrush ddociau Tilbury yn Essex yn cario dros 1,000 o deithwyr o Ynysoedd y Caribî.

Mrs Roma Taylor yn ferch ifanc

Fe wnaeth y bobol hyn adael eu teuluoedd a’u ffrindiau er mwyn ateb galwad Prydain am weithwyr wedi’r rhyfel.

Dros y 40 mlynedd wedyn, dilynodd miloedd o bobol eraill eu hôl traed, ac ymgartrefodd llawer ohonyn nhw yng Nghymru.

Roedd hanes cenhedlaeth Windrush yng Nghymru yn destun prosiect hanes llafar diweddar, a gafodd ei gynnal gan Gyngor Hil Cymru a’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Ar gyfer y prosiect, bu aelodau o Genhedlaeth Windrush Cymru o bob cwr o’r wlad yn rhannu eu straeon am fudo a’u hatgofion am greu bywyd newydd yng Nghymru.

‘Cyfraniad gwerthfawr’

Dywed Sioned Hughes, Pennaeth Hanes Cyhoeddus ac Archeoleg Amgueddfa Cymru, y bydd yr hanesion llafar yn “gofnod parhaol” o brofiadau’r genhedlaeth.

“Mae Cenhedlaeth Windrush a’u teuluoedd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr a pharhaol i Gymru, ac rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Race Council Cymru i adrodd y straeon pwysig hyn,” meddai.

“Bydd yr hanesion llafar a gofnodwyd gan broject Windrush Cymru yn cael eu harchifo yn Sain Ffagan fel cofnod parhaol o brofiadau Cenhedlaeth Windrush yng Nghymru.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Hynafiaid Windrush am rannu eu profiadau â ni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

‘Trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf’

Dywed yr Athro Uzo Iwobi, sylfaenydd Cyngor Hil Cymru a symbylydd prosiect Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes ei bod hi’n “falch o fod wedi cefnogi’r Hynafiaid ers blynyddoedd, gan wrando ar eu hapêl i’w straeon gael eu cofnodi er lles eu disgynyddion”.

Vernesta Cyril yn ifanc

“Rwyf wrth fy modd bod y prosiect a’r arddangosfa hon wedi dwyn ffrwyth – mae’n arbennig o bwysig gweld y straeon hyn yn cael eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf,” meddai.

‘Ein straeon ni’

“O’r diwedd mae cymdeithas wedi cydnabod Cenhedlaeth Windrush, fel y gellir adrodd ein straeon am genedlaethau i ddod,” meddai Vernesta Cyril, a ddaeth i’r Deyrnas Unedig o St Lucia yn 1962 ac a weithiodd fel bydwraig am 40 mlynedd.

Daeth Roma Taylor, Sylfaenydd a Chadeirydd Hynafiaid Windrush Cymru, i fyw i Tiger Bay o Antigua yn bymtheg oed, a dywed fod yr arddangosfa hon yn “foment werthfawr”.

“Rwyf mor falch o’r arddangosfa hon, mae’n foment werthfawr i bob un ohonom. Dyma ein straeon ni, ac os na ydym yn eu rhannu nawr, byddant yn cael eu colli,” meddai.

“Mae’r Windrush yn bwnc poenus ac emosiynol ond mae’n rhaid i ni adrodd ein straeon. Mae’n bwysig i ni, i’n plant, ein hwyrion a’n wyresau ac i’r ysgolion.

“Mae angen i bawb wybod ein bod wedi bod trwy lawer. Mae Duw wedi dod â ni drwyddi.

“Tiger Bay oedd y lle gorau i fyw ynddo, fe ddes i draw yn ‘59. Roedd pawb yn edrych ar ôl pawb, a doedd dim problemau.”

Ar ôl gadael Sain Ffagan ar ddiwrnod olaf Hydref, bydd yr arddangosfa’n teithio i:

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – 4 Tachwedd 2021 i 2 Ionawr 2022

Amgueddfa Lechi Cymru – 8 Ionawr i 23 Ionawr 2022 

Amgueddfa Wlân Cymru – 28 Ionawr i 14 Chwefror 2022

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru – 19 Chwefror i 6 Mawrth 2022  

Caiff Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes ei chyflwyno gan Gyngor Hil Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, Canolfan y Mileniwm, Casgliad y Werin Cymru, Hynafiaid Windrush Cymru, a Hanes Pobl Dduon Cymru 365, a gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Choleg Gŵyr Abertawe.