Mae bachgen 11 oed wedi cael anafiadau difrifol ar ôl cael ei daro gan gar yn y Fflint.

Fe ddigwyddodd am oddeutu 3.50yp brynhawn ddoe (dydd Mercher, Medi 29).

Cafodd ei daro gan Vauxhall Corsa lliw coch ar ffordd A5119.

Aeth yr ambiwlans awyr i safle’r digwyddiad, a chafodd y bachgen ei gludo i’r ysbyty gan yr heddlu a meddyg.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion.