Mae Dominic Raab, dirprwy brif weinidog Prydain, yn awgrymu y dylid cyflogi troseddwyr sydd wedi derbyn gorchymyn cymunedol i yrru lorïau yn sgil prinder gyrwyr.

Mae’r pryderon am ddiffyg tanwydd yn parhau ar ôl i bobol fod yn prynu mewn panig.

Mae Kwasi Kwarteng, Ysgrifennydd Busnes San Steffan, eisoes wedi cyhoeddi y gallai’r Fyddin gynorthwyo’r sefyllfa drwy yrru tanceri dros y dyddiau nesaf er mwyn sicrhau cyflenwadau digonol mewn gorsafoedd petrol.

Ond mae Dominic Raab, sydd hefyd yn Ysgrifennydd Cyfiawnder ar ôl i Boris Johnson ad-drefnu ei gabinet, wedi wfftio’r alwad gan y Blaid Lafur am 100,000 o fisas i fewnfudwyr er mwyn sicrhau bod digon o yrwyr ar gael.

Yn ôl y cyn-Ysgrifennydd Tramor, byddai Prydain yn ddibynnol yn y tymor hir ar lafur o dramor pe bai’r llywodraeth yn cymryd y cam hwnnw.

“Rydyn ni wedi bod yn cael carcharorion a throseddwyr i wirfoddoli a gwneud gwaith di-dâl,” meddai Raab wrth The Spectator.

“Pam lai os oes yna brinder eu hannog nhw i wneud gwaith â thâl lle mae hynny o fudd i’r economi ac o fudd i’r gymdeithas?

“Os ydych chi’n rhoi rhywbeth i bobol ei wneud drostyn nhw eu hunain, yn rhoi rhywbeth iddyn nhw ei golli, os ydych chi’n rhoi llygedyn o obaith iddyn nhw, maen nhw’n llawer llai tebygol o droseddu eto.”

Dim digon o danwydd o hyd

Daw sylwadau Dominic Raab wrth i yrwyr barhau i gwyno nad oes digon o danwydd mewn gorsafoedd petrol o hyd.

Yn ôl arolwg diweddaraf y Gymdeithas Manwerthwyr Petrol, roedd un o bob pedwar o orsafoedd heb danwydd, i lawr o un o bob tri ddydd Mawrth (Medi 28).

Ond mae gweinidogion San Steffan yn mynnu eu bod nhw’n disgwyl i’r sefyllfa wella eto, wrth i filwyr barhau i ddechrau gyrru ar y ffyrdd dros y dyddiau nesaf.

Mae’r ffyrdd yn Llundain dan eu sang wrth i yrwyr yrru o gwmpas i geisio dod o hyd i danwydd, gyda rhai yn cario caniau petrol a photeli i’w llenwi.

Fe fu adroddiadau o drais mewn rhai llefydd hefyd pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf.

Ond mae Kwasi Kwarteng yn dweud bod y sefyllfa’n “sefydlogi” a bod y rhan fwyaf o bobol “yn ymddwyn yn gyfrifol”.

Ar y cyfan, mae 150 o filwyr a 150 o gyd-yrwyr wedi bod yn aros am yr alwad ers dechrau’r wythnos i ddechrau gyrru tanceri i sicrhau cyflenwadau digonol i orsafoedd petrol.

Mae ystadegau’r Adran Drafnidiaeth yn dangos bod mwy na 56,000 o geisiadau am drwyddedau gyrru galwedigaethol, trwyddedau lorïau HGV a bysus sydd yn aros i gael eu prosesu o hyd.

Mae gweinidogion yn dweud mai’r pandemig Covid-19 sy’n gyfrifol am yr oedi gan ei fod wedi arwain at ganslo degau o filoedd o brofion gyrru y llynedd.