Mae myfyrwyr rhyngwladol yn cyfrannu gwerth £80m o fudd economaidd i Geredigion y flwyddyn, yn ôl adroddiad newydd.
Yn ogystal, mae’r sir yn elwa o’r buddiannau diwylliannol a chymdeithasol a ddaw yn sgil cael poblogaeth fwy amrywiol, meddai adroddiad gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch a Universities UK International.
Ar draws Cymru, daeth myfyrwyr rhyngwladol â budd economaidd gwerth net o £1.08bn yn ystod y flwyddyn academaidd 2018/19.
Yng Ngheredigion, byddai un myfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf wedi cyfrannu dros £87,000 o hwb i’r economi yn y flwyddyn academaidd honno.
Cafodd y gwerthoedd eu cyfrifo wrth gyfuno incwm o’r ffioedd dysgu, eu costau byw a’u gwariant yn yr economi ehangach, yn ogystal â’r arian a gafodd ei wario gan eu cyfeillion a’u teuluoedd wrth ymweld.
Serch hynny, mae adroddiad The Costs and Benefits of International Higher Education Students to the UK Economy y cwmni ymgynghori London Economics, yn dweud na ddylid mesur gwerth myfyrwyr rhyngwladol yn nhermau arian yn unig.
Mae’r adroddiad, a wnaeth ddadansoddi budd economaidd myfyrwyr rhyngwladol yn eu blwyddyn gyntaf mewn prifysgolion ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig, yn nodi eu bod nhw’n gwneud cyfraniad allweddol at gyfoethogi’r gymdeithas yn ddiwylliannol.
Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar y flwyddyn academaidd olaf cyn y pandemig.
‘Cyfoethogi’r profiad’
Yn Aberystwyth, mae tua un o bob pump o boblogaeth myfyrwyr y Brifysgol yn dod o dramor ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021/22.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth fod “prifysgol amrywiol yn brifysgol lwyddiannus”.
“Mae myfyrwyr rhyngwladol yn cyfoethogi’r profiad ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy wneud ffrindiau, meithrin perthynas â’r staff, ac ymdaflu i’r gymuned ehangach,” meddai.
“Yn ogystal â chael profiad addysg uwch, mae myfyrwyr rhyngwladol hefyd yn dysgu am Gymru a’i diwylliant.
“Mae ein myfyrwyr sy’n hanu o Gymru a gweddill gwledydd Prydain yn meithrin eu sgiliau traws-ddiwylliannol ymhellach, felly mae pawb ar eu hennill. Yn y pen draw, rydym yn creu graddedigion sy’n fwy deniadol yn y farchnad swyddi gyda meddylfryd mwy eangfrydig at y dyfodol.
“Mae gallu Prifysgol Aberystwyth i feithrin cysylltiadau ledled y byd yn galondid i mi bob amser. Mae gan ein cyn-fyfyrwyr hoffter at y dref a thuag at Gymru na welwch chi mewn prifysgolion eraill. Pan ddychwelant i’w mamwlad maent yn dod yn genhadwyr dros Gymru a gweddill Prydain.”