Mae cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod cynghorau lleol yn sefydlog am y tro, yn ôl adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Er hynny, mae heriau mawr o’u blaenau yn sgil galw cynyddol am rai gwasanaethau llywodraeth leol a lefelau ariannu posib.
Yn ôl adroddiad Darlun ar Lywodraeth Leol mae sefyllfa ariannol pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi gwella eleni oherwydd y cyllid ychwanegol yn ystod y pandemig.
Fodd bynnag, mae rhai cynghorau mewn gwell sefyllfa nag eraill wrth ymateb i’r heriau yn y dyfodol.
Yr adroddiad
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddyrannu £660m ychwanegol i helpu cynghorau lleol dalu am golled incwm a gwariant ychwanegol dros 2020/21, meddai’r Archwilydd Cyffredinol.
Derbyniodd cynghorau gyllid ychwanegol hefyd, gan gynnwys arian i athrawon dalu costau cymorth i ddal i fyny ag addysg ac am ddeunyddiau glanhau.
Yn ôl yr adroddiad, mae’r cyllid tymor byr hwn yn golygu bod sefyllfaoedd ariannol cynghorau wedi gwella, bod costau Covid-19 wedi cael eu lliniaru ac, ar y cyfan, doedd cynghorau ddim yn dibynnu ar gronfeydd wrth gefn i gydbwyso eu cyllidau ar gyfer 2020/21.
Fodd bynnag, mae cynghorau’n wynebu ansicrwydd ynghylch lefelau ariannu yn y dyfodol ac mae heriau tymor hir yn parhau, meddai.
Noda’r Archwilydd Cyffredinol fod cynghorau’n wynebu gwasgfa ariannol cyn y pandemig.
Mae’r cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng 17% dros y degawd diwethaf, er bod cynghorau wedi gwrthbwyso’r toriad hwnnw gyda chynnydd o 35% mewn arian sy’n cael ei gasglu drwy’r Dreth Gyngor.
Fe wnaeth gwariant cyffredinol cynghorau ostwng o 8% dros y degawd diwethaf, meddai’r adroddiad.
Wrth edrych i’r dyfodol, mae’r galw am wasanaethau lleol yn cynyddu tra bod cyllidebau ar draws y sector cyhoeddus yn parhau’n dynn, meddai wedyn.
Mae adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol yn argymell y dylai cynghorau ganolbwyntio ar bedwar peth i wella eu cynaliadwyedd ariannol wrth reoli’r pwysau, gwella wedi’r pandemig ac ymateb i newid hinsawdd:
- Strategaethau ariannol
- Cronfeydd wrth gefn
- Perfformiad yn erbyn y gyllideb
- Cyflawni arbedion.
‘Gwella cynaliadwyedd’
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton fod y pandemig “wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaethau llywodraeth leol” a bod llywodraeth leol yn “chwarae rhan allweddol yn y broses o adfer wedi’r pandemig”.
“Er bod cynghorau wedi cael cymorth ariannol drwy’r pandemig, mae angen iddynt weithredu strategaethau i wella eu cynaliadwyedd ariannol tymor hwy er mwyn sicrhau eu bod yn gallu darparu gwasanaethau hanfodol sy’n cadw cymunedau’n ddiogel ac yn iach,” meddai.
“Mae ein hadroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus a chrynodebau ategol yn nodi rhagor o wybodaeth ac yn amlinellu ein safbwynt ar rai o’r materion allweddol ar gyfer y dyfodol.”
‘Rôl hanfodol’
Wrth groesawu’r adroddiad, dywed Mark Isherwood, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd a Chadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, ei fod yn “cydnabod yr heriau allweddol sy’n wynebu llywodraeth leol” sy’n cael eu nodi ynddo.
“Mae cynghorau wedi chwarae rôl hanfodol wrth wasanaethu cymunedau lleol yn ystod y pandemig,” meddai.
“Mae adroddiadau’r Archwilydd Cyffredinol yn glir bod gwariant ar wasanaethau llywodraeth leol wedi gostwng mewn termau real dros y degawd diwethaf, ond mae’r galw am rai gwasanaethau’n parhau i gynyddu.
“Mae cyllid ychwanegol i gynghorau ddelio ag effaith uniongyrchol y pandemig wedi gwella eu sefyllfa ariannol am y tro, ac mae rhai cynghorau mewn sefyllfa well nag eraill o ran gwrthsefyll pwysau yn y dyfodol.
“Ond, fel mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ei nodi, mae meysydd pwysig y gall cynghorau ganolbwyntio arnynt wrth iddynt geisio aros yn ariannol gynaliadwy ac yn wydn ar gyfer cenedlaethau nawr ac yn y dyfodol.
“Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd rôl allweddol i’w chwarae, trwy weithio gyda llywodraeth leol i fynd i’r afael â’r heriau ariannol sydd o’i blaen ac wrth iddi geisio newid y fframwaith perfformiad ehangach.”