Roedd cryn sylw ar Mark Drakeford yr wythnos hon wrth iddo annerch cynhadledd y Blaid Lafur Brydeinig yn Brighton.

Ei nod oedd cynnig gwersi i Keir Starmer, y dyn sy’n gobeithio dod yn Brif Weinidog nesaf Prydain.

Roedd Llafurwyr yn glustiau i gyd wrth i Brif Weinidog Cymru dderbyn platfform mwy blaenllaw na’r arfer yn y gynhadledd eleni.