Ar ôl cael gyrfa lewyrchus am ddegawdau, dim ond ar ôl byw drwy bandemig y mae’r actores Eiry Thomas wedi sylweddoli gwir werth ei chrefft, meddai.

Mae’r actores, sydd wedi actio ar fflyd o gyfresi ar S4C a rhai Saesneg fel Keeping Faith a Stella, wedi dweud bod cyfnod y pandemig wedi dangos iddi cymaint y mae ar bobol angen dihangfa drwy wylio dramâu.