Mae’r pandemig yn gyfle i ail-lunio’r wythnos waith a chael gwell cydbwysedd ym mywydau gweithwyr y wlad, yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi.

Mewn dadl ddiweddar bu Aelodau o Senedd Cymru yn trafod syniad fydd yn swnio yn apelgar iawn i nifer, sef lleihau’r wythnos waith.

Dyma gynllun a fyddai’n chwyldroi patrymau gweithwyr y wlad gan leihau dyddiau gwaith o bump i bedwar diwrnod yr wythnos.