Flwyddyn ers yr orymdaith wreiddiol i dynnu sylw at brisiau tai, fe gerddodd criw ‘Hawl i fyw adra’ yr 17 milltir o Nant Gwrtheyrn i bencadlys Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn.

“Ym Morfa Nefyn, lle ces i fy magu, does gen i ddim gobaith o fyw yno gan fod y prisiau’n warthus,” meddai’r Cynghorydd Rhys Tudur.

Yn y llun mae’r ymgyrchwyr ym Mwlch yr Eifl ger pentref Trefor ym Mhen Llŷn.