Nid yn anaml y bydda i’n disgyn i’r fagl o wneud rhywbeth dwi’n gwybod yn iawn, o brofiad, nad ydw i’n ei hoffi, ond bod delwedd y peth rywsut yn rhy atyniadol i beidio a’i ailadrodd. Yr hyn wnes i oedd piciad i ganol Caerdydd am ddiwrnod allan i ‘nifyrru fy hun. Mae’r syniad yn un da. Ro’n i angen ychydig o ddillad newydd wedi bron dwy flynedd o osgoi gwneud, felly ‘Gwna ddiwrnod ohoni, Jês,’ ddywedais i wrth fy hun.