Does gen i fawr o ddiddordeb yng ngwasanaeth CBeebies y BBC fel arfer.

Rhaglenni teledu yn Saesneg i blant dan 7 oed mae’n eu darparu, wedi’r cyfan, a minnau mor bell o’r gynulleidfa darged ag sy’n bosibl bod.

Ond, un diwrnod wythnos diwethaf, fe lenwodd fideo gan CBeebies fy nghalon â llawenydd pur.

Ar y cyfryngau cymdeithasol y gwelais i’r fideo, ac roedd dod ar ei draws yn ddigon i ysgubo’r môr o ddigalondid a phydredd sy’n gymaint rhan o’r diwylliant ar-lein ymaith am ychydig.