Efallai nad oedd hi’n syndod nad oes fawr ddim sôn am Gymru (na’r Alban) ym maniffesto personol arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer.

Wedi’r cyfan, dydi’r blaid – er gwaetha’ ei holl drafferthion – yn gwneud fawr ddim o’r ffaith fod ganddi hi un gangen lwyddiannus sydd wedi llwyddo i ennill pob etholiad ers bron ganrif.