Mae gan glybiau chwaraeon a’r cyfryngau ran bwysig i’w chwarae wrth sicrhau bod pobol ifanc yn parhau i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol, yn ôl aelodau cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Mewn cyfarfod ddoe (dydd Llun, Ionawr 31), fe wnaeth Cabinet y Cyngor gymeradwyo cynllun deng mlynedd i gynyddu addysg Gymraeg ymhellach yn y sir.

Roedd hynny’n cynnwys cynllun trochi plant ifanc fel eu bod nhw’n ddwyieithog erbyn eu bod nhw’n saith oed.

Bydd y cynllun nawr yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, fel eu bod nhw’n gallu monitro sut mae eu hamcanion o ran yr iaith yn cael eu cyflawni.

Mae gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru gyflwyno cynllun o’r fath, yn rhan o gynlluniau’r Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Pryderon

Oherwydd bod y cynllun yn cyfeirio at sefydliadau addysg, mae rhai cynghorwyr yn bryderus am yr hyn sy’n digwydd y tu allan i ysgolion.

Mae’r Cynghorydd David Jenkins yn poeni nad yw’r cynllun yn cyfeirio at fynediad i’r Gymraeg drwy’r cyfryngau.

“Rwy’n teimlo bod [pobol ifanc] yn cael eu haddysgu yn Gymraeg mewn ysgolion, ond yna cyn gynted ag y byddan nhw’n gadael yr ysgol, mae llawer ohonyn nhw’n troi’n ôl i’r Saesneg,” meddai.

Ychwanegodd y Cynghorydd Linda Evans fod gan hyfforddwyr chwaraeon “ran bwysig iawn i’w chwarae” wrth siarad Cymraeg â’r bobol ifanc y maen nhw’n eu hyfforddi, fel bod yr iaith yn dod yn “rhan o’u bywyd cymdeithasol” hefyd.

Wrth ymateb i hynny, dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes-Griffiths mai dyma oedd pwyslais fforwm iaith Sir Gaerfyrddin i raddau helaeth.

Mae’r Cyngor yn cyfeirio at yr Urdd, y Mentrau Iaith, a’r Ffermwyr Ifanc fel rhai o’r mudiadau sy’n darparu cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg y tu allan i’r ysgol.

Gan ategu at hynny, dywedodd y cyfarwyddwr addysg Gareth Morgans fod llawer o brosiectau cymdeithasol Cymraeg yn cael eu datblygu a bod y BBC wedi creu sawl adnodd ei hun yn ogystal.

Hefyd, mae menter Gymraeg newydd rhwng S4C a’r Cyngor – Croeso Cyw – newydd gael ei lansio, ac wedi’i hanelu at blant y cyfnod sylfaen a’u rhieni.

Cynllun

Mae cynllun Sir Gaerfyrddin ar gyfer y Gymraeg mewn addysg yn nodi saith amcan ar gyfer disgyblion o bob oed.

Mae’r rheiny’n cynnwys cael mwy o bobol ifanc yn astudio cymwysterau asesedig yn y Gymraeg fel pwnc, a phynciau trwy gyfrwng y Gymraeg – a hyfforddi mwy o athrawon i’w helpu gyda hyn.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg ac Estyn eu bod nhw’n croesawu’r sylw ar hyfforddiant iaith i athrawon.

Fe wnaeth ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun 10 mlynedd yr hydref diwethaf dderbyn 862 o ymatebion.

Roedd cyfanswm o 46% yn cefnogi’r cynnig i ddisgyblion fod yn ddwyieithog erbyn eu bod nhw’n saith oed lle bo modd, tra bod 41% yn erbyn y syniad a 9% yn ansicr.

Roedd 51% yn cefnogi cael mwy o gyfleoedd i ddisgyblion i siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth ac yn y gymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet ar gyfer addysg a gwasanaethau plant, fod gwelliannau wedi eu gwneud i’r cynllun yn dilyn yr ymgynghoriad.

Gan gyfeirio at yr uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg ar lefel y Llywodraeth, dywedodd ei bod hi’n “bwysig yn fy marn i fod pawb yn cydweithio i gyrraedd y nod rhagorol hwnnw”.