Er bod cais Joseph, ffoadur o’r Côte d’Ivoire (y Traeth Ifori), am loches wedi cael ei wrthod unwaith, mae e wedi dweud wrth golwg360 ei fod e’n “lwcus iawn” o gymharu â cheiswyr lloches eraill.
Daeth Joseph i Gymru yn 2018, a bu’n aros tua blwyddyn i’w gais am loches gael ei gymeradwyo, ac roedd y profiad o aros i’r cais gael ei gymeradwyo yn un “anodd”, meddai.
Bu’n rhaid iddo ffoi ar ôl iddo sgwennu rap yn cefnogi’r Arlywydd Laurent Gbagbo, ac wedi i wrthryfelwyr feddiannu’r ddinas roedd yn byw ynddi.
Ar ôl ffoi i Foroco, mi geisiodd am loches yn y Deyrnas Unedig, ac wedi cyfnod yn byw yn Llundain, cafodd ei symud gan y Swyddfa Gartref i Gymru.
Mae pwyllgor craffu yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ystyried bil “barbaraidd” Cenedligrwydd a Ffiniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y trydydd tro heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 1), cyn y bydd yn mynd trwy ei drydydd darlleniad gerbron yr Arglwyddi.
‘Anodd i bawb’
Roedd y profiad o geisio am loches yn un anodd gan nad oedd hi’n bosib gwybod beth oedd am ddigwydd, meddai Joseph, a fydd yn ymddangos ar raglen ar S4C yn dilyn pedwar unigolyn sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi a dechrau bywyd newydd.
Bu’n rhaid i Joseph fynd gerbron llys yng Nghasnewydd oherwydd bod ei gais wedi’i wrthod unwaith, ac fe wnaeth hynny’r profiad yn un mwy anodd.
“Mae’n anodd i bawb, beth bynnag, achos ti ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd,” meddai Joseph, sydd yn byw yng Nghaerdydd, wrth golwg360.
“Roedd plant gyda fi gartref yn y Traeth Ifori, doeddwn i ddim yn gallu edrych ar ôl y plant, ddim yn gallu anfon arian.
“Stress, stress yw’r brif broblem. Ti ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd, os wyt ti’n mynd i gael statws neu beidio.
“Yn ystod yr un cyfnod, dw i wedi colli fy mam, a dw i ddim yn gallu teithio i’r Traeth Ifori oherwydd bygythiad ar fy mywyd.
“Y pethau anoddaf oedd colli fy mam a methu fy mhlant, a’r stress, wrth gwrs.”
Arhosodd Joseph tua blwyddyn i’w gais gael ei gymeradwyo, ond mae’n adnabod pobol eraill sydd wedi aros yn hirach o lawer, hyd at wyth mlynedd, mewn rhai achosion.
“Dw i wedi bod yn lwcus,” meddai wedyn.
Byddai’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn cynnwys cyflwyno cosbau eithafol i bobol sy’n ceisio lloches, a phobol sy’n eu helpu i gyrraedd.
Fel rhan o’r mesur, byddai canolfannau cadw, tebyg i Fae Guantanamo, yn cael eu creu, yn hytrach na chaniatáu i ffoaduriaid fyw mewn cymunedau.
Dysgu Cymraeg “yn normal”
Penderfynodd Joseph ddysgu Cymraeg “yn syth” ar ôl cyrraedd Cymru ym mis Chwefror 2018, ac mae’n dweud bod hynny’n benderfyniad “normal” iddo os oedd am aros yng Nghymru.
“Pan gyrhaeddais i yma, doeddwn i ddim yn gwybod am yr iaith Gymraeg. Clywais amdani hi’r diwrnod nesaf, pan roeddwn i’n cael brecwast – siaradais i â phobol, a dywedodd rhywun bod iaith gyda Chymru ei hun,” meddai.
“I fi, yn fy marn i, mae’n normal os dw i’n mynd i aros yng Nghymru.
“Doeddwn i ddim yn gwybod, wrth gwrs, beth oedd yn mynd i ddigwydd. Ond meddyliais i, ‘Efallai dw i’n mynd i aros yma yng Nghymru’.”
Mae Joseph yn siarad wyth iaith gan gynnwys y Gymraeg, ac mi dderbyniodd gwersi cychwynnol am ddim gan Brifysgol Caerdydd, cyn mynychu cwrs dwys.
“Yn ystod y cyfnod dysgu, cefais i gyfle i deithio o gwmpas Cymru, cefais i’r cyfle i gwrdd â phobol ddiddorol iawn, pobol o’r gymuned Gymraeg – fe wnes i lawer o ffrindiau.
“Mae’n helpu. Pan ti’n aros, ti’n aros gartref, ti ddim yn cwrdd â llawer o bobol, ar wahân i ffoaduriaid a cheiswyr lloches – ac maen nhw gyda phroblemau hefyd, fel ti.”
Bydd Raman o Gwrdistan, fu’n byw yng ngwersyll Penalun; Mohammad, sydd wedi sefydlu busnes llwyddiannus gyda chefnogaeth canolfan Oasis yng Nghaerdydd; a Miloha o Venezuela sy’n gweithio tuag at drosglwyddo ei chymhwyster mewn meddyginiaeth yma fel ei bod hi’n gallu parhau â’i gyrfa fel meddyg, yn ymddangos ar raglen Lloches ar S4C hefyd.
- Lloches ar S4C nos Sul, Chwefror 20.