Mae Llywodraeth Cymru wedi condemnio’r mesurau “barbaraidd” sy’n rhan o Fil Cenedligrwydd a Ffiniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel, mae Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, Jane Hutt, wedi mynnu y dylai San Steffan ddatblygu “ffyrdd diogel a chyfreithiol” i ffoaduriaid hawlio lloches.

Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ailystyried ei “strategaeth amgylchedd elyniaethus”, meddai Jane Hutt AoS yn y llythyr, sydd wedi’i ysgrifennu ar y cyd â Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yr Alban, Shona Robison.

Mae’r ddwy yn gofyn am gael trafodaeth gyda Priti Patel ynghylch y sefyllfa cyn diwedd y flwyddyn, gan “nad oes yr un cyfarfod gweinidogol wedi’i gynnal ynghylch y materion hyn” hyd yma.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn gwrthwynebu’r mesur, gan ddadlau ei fod yn trio deddfu ar faterion sydd wedi’u datganoli i Gymru.

Byddai’r mesur yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i weithredu ym maes cydraddoldeb, cynllunio, gwasanaethau cymdeithasol, cydlyniant cymunedol ac integreiddio mudwyr, meddai’r Memorandwm.

“Barbaraidd”

Aeth y mesur drwy Dŷ’r Cyffredin ddydd Llun (13 Rhagfyr), ac mae’n ceisio cwtogi ar ymdrechion i groesi’r sianel a newid y ffordd mae ceisiadau am loches yn cael eu prosesu.

Fis diwethaf, fe wnaeth 27 o bobol golli’u bywydau wrth groesi’r sianel i Loegr, ac ers 2014 mae 166 o bobol naill ai wedi marw, neu wedi mynd ar goll, wrth wneud y siwrne.

Yn y llythyr, dywedodd llywodraethau Cymru a’r Alban fod ganddyn nhw “bryderon pellgyrhaeddol am effaith y cynigion”.

“Mae’r ddeddfwriaeth hon yn cynnwys mesurau fyddai’n atal mudwyr sy’n croesi Sianel Lloegr mewn cychod bach, gan gynnwys awgrymiadau barbaraidd am ymarferion ‘gwthio’n ôl’ a fyddai’n golygu bod swyddogion gorfodi’n ceisio hel cychod bach ymaith,” meddai Jane Hutt a Shona Robinson.

“Yn hytrach na helpu, bydd y mesurau hyn yn golygu bod oedi wrth achub pobol ac yn peryglu bywydau.

“Mae hi’n ofynnol dan ddeddfau a chonfensiynol morwrol i sicrhau diogelwch pobol.”

Mae’r mesur yn gwahaniaethu o ran ffoaduriaid ar sail sut y maen nhw’n cyrraedd y Deyrnas Unedig, ac yn ôl y ddwy lywodraeth dylid canolbwyntio ar wella’r system loches, yn hytrach na dod o hyd i ffyrdd I’w gwneud hi’n fwy “heriol”.

Hefyd, fel rhan o’r mesur, byddai canolfannau cadw yn cael eu sefydlu, yn hytrach na chaniatáu i ffoaduriaid fyw mewn cymunedau.

Yn ôl Jane Hutt a Shona Robinson, bydd y “cynigion yn ymwneud â defnyddio canolfannau llety yn arwain at eithafiaeth adain dde (blaenoriaeth arall i’r Swyddfa Gartref fynd i’r afael â hi), fel y gwnaethom ni ei weld yn Mhenalun yng ngorllewin Cymru”.

Yn y llythyr, dywedodd Llywodraethau Cymru a’r Alban fod y Swyddfa Gartref wedi cynnig tua 80 diwygiad, “heb unrhyw rybudd na ymgysylltu ystyrlon”, lai nag wythnos cyn i’r bil gyrraedd y cam adrodd.

“Mae’r agwedd hon yn gwneud gweithio ar y cyd bron yn amhosib, a byddwn yn annog llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymgysylltu’n adeiladol er mwyn mynd i’r afael â’n pryderon gwirioneddol.”

“Croesawu pawb”

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi dweud fod y Bil yn mynd yn groes i bolisi Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru hefyd.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio cyflwyno Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Bydd y Bil hwn yn gwneud hi’n anodd i bobol sy’n chwilio am noddfa oddi wrth erledigaeth a dioddefaint,” meddai Cyngor Ffoaduriaid Cymru mewn fideo.

“Gellir ailasesu eu hawliau am loches i’w symud a’u cymryd i ffwrdd ar unwaith, nid oes unrhyw un eisiau i’w ffrind, eu cymydog, neu’u cydweithiwr ddiflannu.

“O dan y ddeddf hawliau dynol, mae gan bawb yr hawl i hawlio lloches ac yng Nghymru rydyn ni’n croesawu pawb sy’n gwneud hynny.

“Yng Nghymru rydyn ni’n cydsefyll â phob ffoadur.

“Beth bynnag mae’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn ei ddweud, mae Cymru yn genedl noddfa.”

Angen i fesur gwrth-ffoaduriaid San Steffan “gyd-fynd â’r weledigaeth o Gymru fel Cenedl Noddfa”

Y Mesur Ffiniau’n mynd yn groes i hynny, meddai Plaid Cymru, a Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu gan ei fod yn ceisio deddfu dros faterion datganoledig