Mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, yn rhybuddio y gallai diffyg cydweithredu gan wleidyddion yn yr Undeb Ewropeaidd waethygu sefyllfa ffoaduriaid sy’n ceisio croesi’r Sianel yn ystod y gaeaf.
Mae disgwyl i Lywodraeth Ffrainc groesawu gweinidogion o’r Almaen, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd, yn ogystal â chynrychiolydd o Gomisiwn Ewrop ar gyfer trafodaethau, ond cafodd gwahoddiad Priti Patel ei dynnu’n ôl yn dilyn ffrae rhwng Boris Johnson, prif weinidog Prydain ac Emmanuel Macron, arlywydd Ffrainc.
Ond mae Priti Patel wedi addo gwthio er mwyn gwella’r sefyllfa.
Marwolaethau a ffrae
Ddydd Mercher (Tachwedd 24), bu farw 27 o bobol wrth iddyn nhw geisio teithio o Ffrainc i’r Deyrnas Unedig, a hynny ar ôl i’w cwch suddo yn y Sianel.
Dyma’r nifer fwyaf o farwolaethau yn y Sianel ers i gofnodion ddechrau yn 2014, ac mae cwestiynau wedi’u codi ynghylch pam fod cynifer o bobol yn ceisio croesi’r môr mewn amgylchiadau mor eithafol.
Ddydd Gwener (Tachwedd 26), cyhoeddodd Boris Johnson lythyr roedd e wedi’i anfon at Emmanuel Macron ynghylch sut i ddatrys y sefyllfa bresennol.
Roedd ei lythyr yn amlinellu pum cam, sef patrolau ar y cyd, gwella’r dechnoleg megis synwyryddion a radar, patrolau morwrol yn nyfroedd ei gilydd, mwy o gydweithio rhwng gwasanaethau cudd-wybodaeth, a negodi ynghylch dychwelyd ffoaduriaid i Ffrainc os ydyn nhw’n cyrraedd y Deyrnas Unedig.
Fe wnaeth y llythyr wylltio Emmanuel Macron a Llywodraeth Ffrainc, a chafodd gwahoddiad Priti Patel ei dynnu’n ôl, er bod modd i gynrychiolydd o Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd rhan yn y trafodaethau yn ei lle.
Mae Priti Patel yn galw ar arweinwyr Ewropeaidd i “gymryd cyfrifoldeb” ac i “gydweithio yn ystod argyfwng”, gan ychwanegu ei bod hi wedi cael trafodaethau “adeiladol” gyda’i chydweithiwr Ffrengig Gerald Darmanin.
Wrth ymateb i’r ffrae, mae Lisa Nandy, llefarydd materion tramor Llafur, wedi beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am “gymryd rhan mewn gêm o feiau tra bod plant yn boddi oddi ar ein harfordir”.
Dywedodd y byddai’r Blaid Lafur yn cydweithio er mwyn agor “llwybrau diogel a chyfreithlon” ar gyfer ffoaduriaid.