Bu’n rhaid symud nifer o bobol o’u cartrefi ar ôl i dân ddifrodi sawl eiddo yn Llanfaes ger Aberhonddu.

Cafodd pum injan dân a pheiriant dŵr eu hanfon i’r digwyddiad am oddeutu 3.20 fore heddiw (dydd Sul, Tachwedd 28).

Llwyddodd tri dyn i ddianc a chafodd neb ei anafu.

Roedd y gwasanaeth tân ar y safle am rai oriau.

Yn ôl adroddiadau, mae dynes yn cael triniaeth yn yr ysbyty am effeithiau’r mwg.