Mae Storm Arwen yn dal i achosi cryn ddifrod ar hyd a lled Cymru, gan adael degau o filoedd o gartrefi heb drydan neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 27).

Mae lle i gredu bod hyd at 30,000 o gartrefi wedi colli eu cyflenwadau ar un adeg, ac mae cryn oedi wedi bod i deithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus o ganlyniad i wyntoedd cryfion, sydd wedi cyrraedd hyd at 81m.y.a. yng Ngheredigion.

Cafodd to adeilad lloches anifeiliaid yn Llanelli ei ddymchwel, gan ladd un ci bach.

Yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, cwympodd coeden fawr ar safle tafarn, a bu bron i ddynes oedd yn gweithio yno gael ei tharo.

Ym Mhowys, fe wnaeth coeden gwympo ar ben carafán, a chwympodd to tŷ yn Nhrebanog yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Heddlu’r Gogledd yn annog pobol i gysylltu â nhw os ydyn nhw’n poeni am bobol fregus sydd heb drydan.

Yn sir Conwy, bu’n rhaid canslo ffilmio’r gyfres deledu I’m A Celebrity… yn fyw yng nghastell Gwrych oherwydd y gwyntoedd cryfion.

Dylai pobol ledled Cymru wirio’r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.