Bydd disgwyl i bawb sy’n dod i Gymru o dramor gael prawf PCR ac ynysu cyn cael canlyniad negyddol.

Daw’r cyhoeddiad wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dynhau’r rheolau ar gyfer Lloegr yn dilyn cynnydd mewn achosion o amrywiolyn newydd Omicron yn siroedd Essex a Nottingham.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r amrywiolyn newydd o Dde Affrica’n “ddatblygiad difrifol”, ac mae disgwyl i weinidogion gyfarfod dros y penwythnos i ystyried camau pellach.

Daeth cadarnhad neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 27) fod gwisgo mygydau’n orfodol unwaith eto mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus o’r wythnos nesaf – camau sydd eisoes ar waith yng Nghymru.

Yn ôl arbenigwyr, mae’r amrywiolyn newydd yn lledu’n gyflym er nad yw mor ddifrifol â rhai amrywiolion eraill, ac mae pryderon y gall ledu ymhlith pobol sydd wedi cau dau ddos o’r brechlyn Covid-19.

Mae deg o wledydd deheuol cyfandir Affrica ar restr deithio goch y Deyrnas Unedig erbyn hyn, sy’n golygu cyfnod cwarantîn o ddeng niwrnod ar ôl glanio yma.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pa mor effeithiol yw’r brechlynnau presennol yn erbyn yr amrywiolyn newydd, ond mae pobol sydd wedi’u brechu’n llawn yn llai tebygol o gael eu taro’n wael.

Mae pwyllgor JCVI bellach yn ystyried cynnig dos atgyfnerthu i bobol 18 oed, ac ail ddos i blant 12 i 15 oed.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am dynnu’r holl wledydd oddi ar y rhestr goch cyn adnabod yr amrywiolyn Omicron.

Maen nhw’n gofidio hefyd am y defnydd o brofion llif unffordd yn hytrach na phrofion PCR ar yr ail ddiwrnod ar ôl i deithwyr ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig.

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru’n cynnal cyfarfodydd drwy gydol y penwythnos i drafod y sefyllfa. ac maen nhw’n annog pobol i barhau i gael eu brechu, i wisgo mygydau ac i gymryd prawf os oes ganddyn nhw symptomau.