Bydd y Ffair Aeaf yn dychwelyd yr wythnos nesaf, a hynny am y tro cyntaf ers dwy flynedd, oherwydd y pandemig.

Ffair Aeaf y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol fydd y digwyddiad mawr cyntaf i gael ei gynnal ar dir y sioe yn Llanelwedd ers Ffair Aeaf 2019.

Bydd y ffair ddeuddydd yn dechrau ddydd Llun (Tachwedd 29), gan ddenu torfeydd i fwynhau cystadlaethau, dathlu’r diwydiant amaeth, a siopa at y Nadolig.

Fe fydd ymwelwyr yn gallu mwynhau arddangosfeydd a dosbarthiadau, yn ogystal â gwrando ar garolau a bandiau’n perfformio ar gaeau’r sioe.

Cadeirydd Cyngor y Gymdeithas, yr arwerthwr David Lewis sy’n magu gwartheg Charolais yn Llandysul, fydd yn agor y Ffair yn swyddogol am 10 o’r gloch fore Llun.

Bydd tân gwyllt ar nos Lun, yn gynharach nag arfer, am 6.30 yr hwyr, a bydd y neuadd fwyd ar agor ac yn cynnig amrywiaeth o fwydydd gorau Cymru.

Mae’n rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw, gan na fydd hi’n bosib prynu tocynnau wrth y giatiau eleni.

Yn sgil rheoliadau profi ac olrhain Llywodraeth Cymru, fydd dim modd cael mynediad am ddim i’r ffair ar ôl 4 o’r gloch eleni, yn wahanol i’r arfer.

Bydd rhaid i ymwelwyr sydd dros 18 oed ddangos pas Covid neu brawf llif unffordd negyddol wrth gyrraedd.

Mae gofyn i ymwelwyr wisgo mygydau pan maen nhw tu mewn i adeiladau, a dilyn rheoliadau ar ymbellhau cymdeithasol a systemau un-ffordd.

‘Canolbarth Cymru ar y map’

Dywedodd James Evans, llefarydd canolbarth Cymru y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn “methu aros” i weld y Ffair Aeaf, “sydd wedi gwneud gymaint i roi canolbarth Cymru’n gadarn ar y map” yn dychwelyd.

“Y Ffair Aeaf yw un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr ffeiriau amaethyddol fel un o sioeau stoc gorau Ewrop, gan ddangos y gorau o amaeth, bwyd, a diod Cymreig a Phrydeinig,” meddai.

“Bydd hi’n wych gweld maes y sioe yn brysur eto a dw i’n dymuno’r gorau i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer sioe lwyddiannus.”