Mae aelodau Plaid Cymru wedi pleidleisio o fwyafrif llethol i gefnogi’r cytundeb cydweithio rhyngddyn nhw a Llafur yn y Senedd.

Yng nghynhadledd rithiol y Blaid y pnawn yma, cafodd y cytundeb tair-blynedd ei gymeradwyo gan 94% o’r aelodau.

Mae’r cytundeb yn ymwneud â 46 o feysydd polisi sy’n cynnwys cinio ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gyntaf, sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol ac adeiladu rheilffordd o’r gogledd i’r de.

Nid yw’n golygu clymblaid, gan na fydd Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd yn ymuno â’r Llywodraeth fel gweinidogion na dirprwy weinidogion.

‘Cam enfawr ymlaen’

Wrth siarad ar ôl y bleidlais, dywedodd yr Arweinydd Adam Price fod y cytundeb yn “gam enfawr ymlaen i Gymru”.

“Bydd y cytundeb cydweithio yn dod â budd amlwg a hirdymor i bobl Cymru, a hynny ar unwaith,”  meddai.

“Wrth fwydo ein plant a gofalu am ein henoed, mae hon yn rhaglen o adeiladu cenedl a fydd yn newid bywydau miloedd o bobl ar hyd a lled ein gwlad er gwell.

“Yn wyneb y pandemig a llywodraeth Geidwadol elyniaethus yn San Steffan – llywodraeth sy’n benderfynol o wneud popeth a all i danseilio’n sefydliadau cenedlaethol – mae hi er budd ein cenedl i’r ddwy blaid weithio gyda’i gilydd dros Gymru.”

Dechreuodd y trafodaethau rhwng y ddwy blaid ym mis Medi, fisoedd ar ôl i Lafur ennill 30 o 60 o seddau’r Senedd yn yr etholiad ym mis Mai. Daeth y ddwy blaid i gytundeb ddydd Sul diwethaf, a chafodd ei gyhoeddi gan Adam Price, a’r Prif Weinidog Mark Drakeford ar risiau’r Senedd ddydd Llun.

 

Adam Price yn annerch wedi'r etholiad

Y Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn “flaendal ar annibyniaeth”

Disgwyl i Adam Price ddweud bod y cytundeb yn ffordd o “gydweithio ble fo’n bosib, ond yn parhau i herio” yng nghynhadledd y Blaid