Diffyg brechlynnau mewn gwledydd tlawd sy’n gyfrifol am ddatblygiad amrywiolynnau newydd o’r coronafeirws, yn ôl y cyn-brif weinidog Gordon Brown.
Nid yw’r amrywiolyn newydd Omicron yn “ddim syndod” meddai, wrth ymateb i’r pryderon am y sefyllfa bresennol yn neheudir Affrica.
Dywedodd fod arweinwyr iechyd wedi rhybuddio’r Llywodraeth yn barhaus y gallai hyn ddigwydd.
“Yn ogystal â lledaenu ymysg pobl sydd heb gael eu brechu, mae Covid yn esblygu ac addasu,” meddai. “O ganlyniad mae amrywiolynnau newydd yn dod allan o’r gwledydd tlotach, a bellach yn bygwth hyd yn oed bobl wedi eu brechu’n llawn yng ngwledydd cyfoethocaf y byd.”
Llai na 6% o bobl Affrica sydd wedi cael eu brechu’n llawn yn erbyn Covid-19.
“Mae hyn yn cymharu â dros 60% mewn gwledydd cyfoethocach,” meddai. “Bob dydd, wrth i rywun yn y gwledydd tlotaf gael eu brechiad cyntaf, mae chwe gwaith gymaint yn cael eu trydydd dos yn rhannau cyfoethocach y byd.
“Byddwn yn talu’r pris am hyn yn ein gwlad ein hun.”
Digonedd o’r brechlynnau i bawb
Mae digonedd o’r brechlynnau i bawb, yn ôl Gordon Brown.
“Bydd gennym 12 biliwn o’r brechlyn erbyn diwedd y flwyddyn – sy’n ddigon i frechu’r byd i gyd.
“Rydym wedi neilltuo brechlynnau ar gyfer brechiadau hybu ac i bobl ifanc – ond mae’n dal i fod rai dros ben i wledydd eraill. Y drwg yw nad ydyn nhw’n cael eu dosbarthu’n iawn.”