Mae datganiad wedi cael ei arwyddo mewn cannoedd o neuaddau’r Urdd Oren yng Ngogledd Iwerddon yn pwyso ar Boris Johnson i wrando ar wrthwynebiad unoliaethwyr i’r Protocol Brexit.

Mae unoliaethwyr a theyrngarwyr yn ddig fod trefniadau masnachol yn sgil Brexit yn arwain at drin y dalaith yn wahanol i weddill y Deyrnas Unedig er mwyn osgoi ffin galed yn Iwerddon.

Cafodd y datganiad, a gafodd ei drefnu gan yr Urdd Oren, ei arwyddo ar fyrddau wedi eu gorchuddio â baneri Jac yr Undeb mewn tua 250 o’u neuaddau.

Mae’r ymgyrch yn adleisio arwyddo Cyfamod Ulster yn 1912 yn erbyn hunan-lywodraeth i Iwerddon. Cafodd y cyfamod ei arwyddo gan bron i 500,000, gan gynnwys rhai a wnaeth hynny â’u gwaed eu hunain yn ôl pob sôn.

Dywedodd Harold Henning, dirprwy feistr yr Urdd Oren, fod degau o filoedd. O bobl wedi arwyddo’r datganiad yn erbyn y Protocol, ac y bydd yn cael ei gyflwyno i Boris Johnson yn Downing Street ar ôl i’r deisebau gael eu casglu dros yr wythnos nesaf.