Mae dau achos o amrywiolyn newydd Omicron o’r coronafeirws wadi cael eu darganfod yn Lloegr, wrth i’r byd geisio ymateb i’r bygythiad.

Mae’r unigolion a phawb sy’n byw gyda nhw wedi cael eu gorchymyn i hunan-ynysu ar ôl i un achos gael ei ddarganfod yn Chelmsford, Essex a’r llall yn Nottingham.

Y gred yw bod y ddau achos yn gysylltiedig, a bod cysylltiad â deheudir Affrica.

Daw hyn with i wledydd ledled y byd osod cyfyngiadau ar deithio o ddeheudir Affrica mewn ymateb i’r  amrywiolyn newydd.

Er bod hyn yn groes i gyngor Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) mae Prydain, yr Undeb Ewropeaidd, America, Awstralia a Brasil ymysg gwledydd sydd wedi cyflwyno cyfyngiadau o’r fath.

Mae achosion wedi eu cadarnhau Hefyd yng Ngwlad Belg, Israel a Hong Kong, a rhai yn cael eu hamau yn yr Almaen a’r Iseldiroedd.

Pryder

Y pryder mwyaf am amrywiolyn Omicron yw ei fod yn cynnwys nifer mawr o newidiadau, sy’n arwain at amheuon effeithiolrwydd brechiadau yn ei erbyn. Mae  tystiolaeth gynnar yn dangos hefyd ei fod yn fwy heintus na’r amrywiadau eraill, er nad oes tystiolaeth hyd yma a yw’n achosi salwch mwy difrifol ai peidio.

Dywed nifer o gwmnïau fferyllol, gan gynnwys AstraZeneca, Moderna, Novavax a Pfizer, fod ganddyn nhw gynlluniau ar waith i addasu eu brechlynau yng ngoleuni’r datblygiadau diweddaraf.

Dywed yr Athro Andrew Pollard, cyfarwyddwr y Grwp a ddatblygodd y brechlyn AstraZeneca yn Rhydychen, ei fod yn weddol obeithiol y gallai’r brechlynnau presennol barhau i fod yn effeithiol wrth rwystro salwch difrifol.

“Dylai’r brechlyn ddal i weithio yn erbyn armywiolyn newydd o ran rhwystro salwch difrifol, ond rhaid inni aros am rai wythnosau i gadarnhau hyn,” meddai.

“Mae’n annhebygol iawn y bydd y pandemig yn dechrau o’r dechrau mewn poblogaeth sydd wedi cael eu brechu.”