Mae Dirprwy Brif Weinidog yr Alban yn cyhuddo Boris Johnson o geisio cipio grym oddi wrth seneddau datganoledig gwledydd Prydain.
Wrth annerth cynhadledd yr SNP, dywedodd John Swinney mai nod y llywodraeth Dorïaidd yw sichrau rheolaeth ddilyffethair i San Steffan dros yr Alban.
“Yr unig ffordd o gadw enillion datganoli yw trwy ddod yn annibynnol,” meddai, mewn araith rithiol i’r aelodau.
“Rydym bellach yn gweld ymosodiad penderfynol ar ein senedd, gan yr union bobl a ymladdodd yn erbyn iddi gael ei sefydlu yn y lle cyntaf.
“Mewn eirioni cwbl wrthun, mae’r Torïaid yn defnyddio rhywbeth y pleidleisiodd pobl yr Alban yn llethol yn ei erbyn – sef Brexit – i danseilio rhywbeth y gwnaethon nhw bleidleisio’n llesol o’i blaid – sef Senedd yr Alban.”
Mae John Swinney yn rhybuddio mai cynllun y Torïaid yw dileu datganoli yn llechwraidd fesul tipyn.
“Fydd dim ‘Big Bang’ – fydd Boris Johson ddim yn cyhoeddi wrth ffyddloniaid ei blaid ei fod yn dymchwel y setliad datganoli – er mor sicr ydw i yr hoffai wneud hynny,” meddai.
“Ond ddarn wrth ddarn, mae datganoli’n cael ei lastwreiddio gan Blaid Dorïaidd sydd bod amser wedi gwrthwynebu’r syniad o unrhyw beth heblaw rheolaeth ddilyffethair San Steffan dros yr Alban.
“Bydd angen i bawb ohonom sy’n poeni am senedd yr Alban wneud safiad trosti cyn y bydd yn rhy hwyr.”