Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i gau Cinema & Co yn Abertawe am resymau’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd.

Roedd y sinema wedi gwrthod gweithredu rheoliadau ynghylch pasys Covid a gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru.

Yn dilyn hyn, roedd Cyngor Abertawe wedi nodi bod nifer o achosion o dorri’r Rheoliadau Coronafeirws ar y safle.

O dan Ddeddf Coronafeirws 2020, mae gan Weinidogion Cymru bwerau i gymryd camau yn erbyn safleoedd penodol os ydynt o’r farn bod y safle’n peri risg i iechyd y cyhoedd.

Er mwyn cefnogi Cyngor Abertawe a diogelu iechyd y cyhoedd, mae Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad i’r safle yn ei gwneud yn ofynnol iddo gau.

“Gan fod y perchennog wedi dewis peidio â chydymffurfio â’r gofyniad cyfreithiol hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi cymryd rhagor o gamau gorfodi,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud sylw pellach ar achosion cyfreithiol sy’n dal i fynd rhagddynt.”

Cinema & Co Abertawe

Galw ar sinema annibynnol i ymbellhau oddi wrth “grwpiau asgell dde eithafol”

Cangen Abertawe’r mudiad Stand Up To Racism wedi ysgrifennu llythyr agored at Cinema & Co., sy’n gwrthod gweithredu pasys Covid

Sinema annibynnol yn Abertawe’n gwrthod gweithredu pasys Covid

Cadi Dafydd

“Mae’n gwahaniaethu, mae’n gwrthddweud ei hun, yn rhagrithiol, a does gan fusnesau annibynnol ddim yr adnoddau i gyflwyno’r fath raglen”