Mae sinema fach annibynnol Cinema & Co yn Abertawe yn parhau i anwybyddu gorchymyn i gau’r safle am 28 diwrnod, ar ôl iddyn nhw gyhoeddi nad ydyn nhw’n fodlon gofyn am gael gweld pasys Covid cwsmeriaid.

Ers dydd Llun (Tachwedd 15), mae’n rhaid dangos pàs Covid er mwyn cael mynediad i sinemâu, theatrau, a neuaddau cyngerdd, yn ogystal â chlybiau nos a digwyddiadau mawr.

Cyhoeddodd y busnes, sy’n cael ei redeg gan Anna Redfern, ar y cyfryngau cymdeithasol ddechrau’r wythnos na fyddai gofyn i bobol sy’n mynd yno ddangos eu pàs er gwaetha’r drefn ledled Cymru.

Yn ôl Anna Redfern, mae’r pasys yn “gwahaniaethu”, “yn anghyfreithlon”, ac yn “mynd yn groes i hawliau dynol”, ac ni fydd y rhaglen yn cael ei gweithredu yn y sinema, sy’n cyflogi pump o staff.

Yn dilyn ei sylwadau, aeth swyddogion o’r Cyngor Sir yno i gyflwyno gorchymyn i gau’r safle am 28 diwrnod.

Ond agorodd y lleoliad ei ddrysau unwaith eto neithiwr (nos Wener, Tachwedd 20), tra bod y cwmni’n gwrthod siarad â’r cyfryngau.

Mae’r Cyngor Sir bellach yn dweud eu bod nhw’n ystyried cymryd “camau pellach” yn eu herbyn.

Yn sgil yr helynt, mae tudalen codi arian wedi denu degau o filoedd o bunnoedd i’r busnes, ond mae eraill wedi bod yn feirniadol, gan ddweud na fyddan nhw’n mynd yno eto.

Gorchymyn cau

Cinema & Co Abertawe
Nodyn ar ffenest y sinema annibynnol Cinema & Co yn Abertawe

Yn ôl rheoliadau’r llywodraeth, rhaid i fusnesau gwblhau asesiad risg cyn agor eu drysau, a dylai hynny gynnwys yr angen am basys Covid a sut fyddai’r drefn yn cael ei gweithredu.

Gall unrhyw fusnes sy’n gweithredu’n groes i’r drefn gael dirwy o hyd at £10,000.

Dim ond pan fydd mesurau Covid-19 ar waith yn y lleoliad y bydd y gorchymyn cau yn cael ei ddileu, yn ôl y Cyngor Sir, sydd wedi cyflwyno’r gorchymyn am nad oes tystiolaeth o gamau Covid-19 ar y safle, meddai.

Maniffesto

Cyhoeddodd y busnes ddechrau’r wythnos eu bod nhw’n rhoi “maniffesto” ar waith yn y lleoliad.

Mae’n nodi bod y cwmni’n “parchu eich hawl i breifatrwydd”, gan dynnu sylw at Erthygl 12 yn y Ddeddf Hawliau Dynol.

“Dydi hi ddim o’n busnes ni os ydych chi wedi cael eich brechu ai peidio. Mae hyn yn amherthnasol ac ni ddylai eich atal rhag eich hawl i gael mynediad at ddiwylliant,” meddai’r neges.”

‘Gwahaniaethu’

Cinema & Co Abertawe
Cinema & Co yn Abertawe

“Mae’n gwahaniaethu, mae’n gwrthddweud ei hun, yn rhagrithiol, a does gan fusnesau annibynnol ddim yr adnoddau, yn gyffredinol, i gyflwyno’r fath raglen,” meddai Anna Redfern wrth golwg360 ddechrau’r wythnos.

“Hefyd, mae’n agored i gael ei gamddefnyddio. Dw i’n gwybod am nifer o leoliadau eraill, a pherchnogion busnesau eraill jyst yn cael eu gweld fel eu bod nhw’n cadw at y rheolau a’r cyfyngiadau hyn gan eu bod nhw ofn colli eu bywoliaethau.

“Roeddwn i wir eisiau rhoi’r dewrder i bobol eraill sefyll yn erbyn hyn, a gobeithio y bydd yn cael effaith caseg eira.”

 

Sinema annibynnol yn Abertawe’n gwrthod gweithredu pasys Covid

Cadi Dafydd

“Mae’n gwahaniaethu, mae’n gwrthddweud ei hun, yn rhagrithiol, a does gan fusnesau annibynnol ddim yr adnoddau i gyflwyno’r fath raglen”