Mae rheolwr ac is-reolwr tîm pêl-droed Werder Bremen yn yr Almaen wedi camu o’r neilltu yn sgil ymchwiliad i honiadau eu bod nhw wedi ffugio pasys brechu Covid-19.

Mae erlynwyr yn Bremen yn ymchwilio i’r honiadau yn erbyn Markus Anfang a’i gynorthwyydd Florian Junge.

Dywedodd y clwb ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 19) fod Anfang yn gwadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Yn ôl Anfang, mae ganddo fe dystiolaeth ei fod e wedi cael ei frechu mewn canolfan swyddogol.

Ond daeth ei ymddiswyddiad cyn gêm Werder Bremen yn erbyn Schalke heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 20).

Cafodd ei benodi fis Mehefin ar ôl i’r clwb ostwng o’r Bundesliga, sef uwch gynghrair yr Almaen, ar ôl 40 mlynedd ac maen nhw’n wythfed yn y tabl ar hyn o bryd.

Yr hyfforddwr Danjiel Zenkovic fydd wrth y llyw am y tro.