Mae Elfyn Evans wedi colli rhagor o dir yn y ras yn erbyn y Ffrancwr Sébastien Ogier am Bencampwriaeth Ralio’r Byd ar ddiwedd ail ddiwrnod rali Monza yn yr Eidal.
Roedd y Cymro Cymraeg ar y blaen o 1.4 eiliad yn y rali ar ddechrau’r dydd heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 20), ond mae Ogier 5.2 eiliad ar y blaen erbyn hyn.
Gydag Evans yn ail ac Ogier ar frig y bencampwriaeth, byddai angen i Ogier orffen y tu allan i’r pump uchaf ac i’r Cymro ennill y ras er mwyn cipio’r bencampwriaeth.
Cyn dechrau’r rali, roedd 17 pwynt rhyngddyn nhw, gyda 25 o bwyntiau ar gael am ennill y rali a phum pwynt ychwanegol am y cymal cyffro.
‘Nid y cymal gorau’
“Nid dyna oedd y cymal gorau,” meddai Elfyn Evans ar ddiwedd y cystadlu.
“Ges i drafferth cael gafael, ac ro’n i fel pe bawn i’n llithro lawer mwy nag ro’n i wedi’i ddisgwyl.”
“Mae e ei hun, dw i’n meddwl, yn sylweddoli bod angen i Ogier wneud camgymeriad, mewn gwirionedd, iddo fe gael unrhyw siawns,” meddai Emyr Penlan wrth golwg cyn dechrau’r rali.
“Ry’n ni wedi bod fan hyn o’r blaen. Ralïo y’n ni’n sôn amdano, ry’n ni’n dweud o hyd, gall unrhyw beth ddigwydd.
“Mae’n dridiau hir, mae’r amodau’n mynd i fod yn heriol. Er bod Ogier yn arwain, mae e dal o dan bwysau. Mae rhaid iddo fe orffen a weithiau, mae’n haws cwrso na mae e i jyst gwneud digon. Dw i’n credu bod Elfyn â digon yn ei ben e i sylweddoli bod angen bach o lwc arno fe tro hyn. Dyna i gyd all e wneud yw mynd mas, gwneud ei orau ac os gallith e gael y 30 pwynt, dyw e ffaelu gwneud rhagor, so mae e’n ddibynnol wedyn ar beth wneith Ogier.”
“Dw i’n mynd yno i wneud y gwaith gorau alla’ i, ac yn amlwg, ennill y rali fyddai’r unig ffordd yn realistig o gael unrhyw obaith o fod yn bencampwr, felly dyna dw i’n ceisio canolbwyntio arno fo,” meddai Elfyn Evans cyn y rali.
Bydd modd gwylio diwedd y rali yn fyw ar S4C am 11 o’r gloch fory (dydd Sul, Tachwedd 21).