Mae tîm rygbi Cymru wedi crafu buddugoliaeth o 29-28 gyda chic ola’r gêm yn erbyn 14 dyn Awstralia yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.
Roedd hi’n edrych fel pe bai Cymru mewn trafferth pan giciodd Kurtley Beale gic gosb o bell i roi Awstralia ar y blaen o ddau bwynt ym munudau ola’r gêm.
Ond wrth i amddiffyn Awstralia wegian dan bwysau, manteisiodd Cymru ar un drosedd olaf wrth i’r eilydd Rhys Priestland gamu i fyny gyda thripwynt o flaen y pyst.
Hanner cyntaf
Roedd saith newid yn nhîm Cymru o’r tîm gurodd Ffiji yr wythnos ddiwethaf, gyda’r canolwr Uilisi Halaholo yn chwarae am y tro cyntaf yng nghyfres yr hydref, tra bod yr asgellwr Josh Adams, y prop Tomas Francis a’r wythwr Aaron Wainwright i gyd wedi gwella o’u hanafiadau.
Parhaodd y blaenasgellwr Ellis Jenkins yn gapten ar gyfer y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad ers Cwpan y Byd 2019, wrth i Gymru geisio trydedd buddugoliaeth o’r bron dros Awstralia.
Ond roedd yr ymwelwyr heb eu capten Michael Hooper, sydd wedi ennill 118 o gapiau, a hynny gan fod ganddo fe anaf i’w droed, ac fe arweiniodd y prop James Slipper y tîm yn ei absenoldeb.
Dechreuodd Awstralia’n gadarn, gyda chais o fewn tair munud wrth iddyn nhw ymosod am y tro cyntaf, gyda’r prop Taniela Tupou yn hyrddio i fyny’r cae a chreu gofod cyn i’r canolwr Hunter Paisami gicio’n gelfydd a’r asgellwr Andrew Kellaway yn casglu’r bêl cyn croesi’r llinell.
Gyda throsiad James O’Connor, roedden nhw ar y blaen o 7-0, ond ymatebodd Dan Biggar gyda chic gosb wrth i Awstralia ddangos arwyddion o ddiffyg disgyblaeth o’r dechrau’n deg.
Ond daeth yr arwydd mwyaf o hynny pan gafodd yr wythwr grymus Rob Valetini ei anfon o’r cae am ddefnyddio’i ben yn y dacl yn erbyn Adam Beard, a gafodd ei lorio gan rym yr ergyd a bu’n rhaid iddo adael y cae.
Er gwaetha’r fantais o un dyn i Gymru, Awstralia oedd yn dal ar y blaen, a hynny o 10-6 ar ôl i Biggar ac O’Connor gicio cic gosb yr un.
Gydag Awstralia eisoes i lawr i 14 dyn, gwelodd y cefnwr Beale gerdyn melyn am fwrw’r bêl ymlaen yn fwriadol.
Manteisiodd Cymru ar y ddau ddyn ychwanegol pan dorrodd y mewnwr Tomos Williams yn glir o’r lein i greu cais i’r bachwr Ryan Elias, gyda Biggar yn ychwanegu’r trosiad.
Daeth Awstralia’n gyfartal unwaith eto gydag ail gic gosb i O’Connor, ond ciciodd Biggar drydedd cic gosb cyn i’r egwyl i roi Cymru ar y blaen unwaith eto, o 16-13.
Ail hanner
Roedd anghrediniaeth y canolwr Nick Tompkins yn glir i bawb wrth iddo fe fylchu a rhedeg yn syth am y lein ar ôl i’r bêl ollwng o’i ddwylo.
Wrth i’r dyfarnwr Mike Adamson droi at y dyfarnwr fideo, y penderfyniad ar y cae oedd y dylid rhoi’r cais, a bod angen tystiolaeth glir fod y bêl wedi cael ei bwrw ymlaen – ond cafodd y cais ei roi yn y pen draw.
Yn fuan wedi’r trosiad gan Biggar, bu’n rhaid i’r asgellwr Louis Rees-Zammit adael y cae ag anaf i’w goes, a daeth Johnny McNicholl i’r cae yn ei le.
Parhau i ymosod yn gadarn wnaeth Awstralia, ond roedd amddiffyn Cymru yr un mor gadarn.
Roedd y ddau dîm i lawr i 14 dyn pan gafodd yr eilydd o brop Gareth Thomas gerdyn melyn am dacl flêr, a manteisiodd Awstralia wrth i’r mewnwr Nic White groesi ar ôl pasio pert gan yr ymwelwyr.
Triphwynt yn unig oedd ynddi, 23-20, gyda throsiad O’Connor yn llwyddiannus.
Ond fe wnaeth Cymru ymestyn eu mantais rywfaint eto ar ôl 63 munud gyda chic gosb gan Biggar.
Daeth Awstralia o fewn pwynt eto naw munud cyn diwedd y gêm, wrth i’r asgellwr Filipo Daugunu groesi am gais, gyda throsiad O’Connor yn taro’r postyn i sicrhau bod gan Gymru fantais o un pwynt yn y munudau olaf.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedyn gyda chic hir Beale ddwy funud cyn y chwiban olaf, ond fe wnaeth Priestland achub Cymru gyda chic ola’r gêm.
O ystyried sylwadau Wayne Pivac cyn y gêm, fe fydd Cymru’n teimlo bod eu dwy fuddugoliaeth yng ngemau’r hydref yn golygu cyfres lwyddiannus.