Dydy’r awdurdodau chwaraeon ddim yn gwneud digon i fynd i’r afael â hiliaeth, yn ôl Sajid Javid.

Fe fu Ysgrifennydd Iechyd San Steffan yn siarad ar raglen Trevor Phillips on Sunday wrth ymateb i ffrae hiliaeth y byd criced a Chlwb Criced Swydd Efrog.

Fe fu’r mater gerbron pwyllgor seneddol yr wythnos ddiwethaf, lle gwnaeth Azeem Rafiq, cyn-gricedwr Swydd Efrog, gyfres o honiadau yn erbyn y clwb a nifer o unigolion gan ddefnyddio braint seneddol.

Yn ôl Sajid Javid, mae awdurdodau chwaraeon yn “siarad digon” am y mater, ond fe ofynnodd “Beth maen nhw wedi ei wneud sydd wir yn helpu?”

“Dw i’n cofio pan oeddwn i’n Ysgrifennydd Diwylliant ac yn goruchwylio chwaraeon yn y wlad hon,” meddai.

“Dw i’n cofio cyfarfod â’r ECB (Bwrdd Criced Cymru a Lloegr) ynghylch materion yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail hil yn y byd criced, ac roedden nhw’n dweud wrthyf beth roedden nhw’n mynd i’w wneud,” meddai.

“Edrychwch nawr lle’r ydyn ni nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach, edrychwch beth sy’n digwydd, edrychwch beth sydd wedi cael ei ddatgelu.

“Dw i ddim yn meddwl bod yr ECB wedi cymryd y mater hwn o ddifri, wir.

“Dw i’n credu bod angen iddyn nhw edrych arnyn nhw eu hunain yn ofalus.

“A nawr mae hyn yn brawf go iawn iddyn nhw, gadewch i ni weld a ydyn nhw’n gallu ei basio.”

Nid ‘tynnu coes’ yw hiliaeth

Wrth ymateb i sylwadau nifer o bobol eu bod nhw wedi defnyddio geiriau hiliol wrth “dynnu coes”, mae Sajid Javid yn dweud nad yw hiliaeth fyth yn fater o dynnu coes.

Dywed iddo gael ei alw’n enwau hiliol “bron bob dydd yn yr ysgol”.

“Do’n i ddim yn ei hoffi bryd hynny, dw i ddim yn ei hoffi nawr,” meddai.

“Dw i’n meddwl mai’r newyddion da yw fod ein gwlad wedi dod yn bell iawn ers hynny.

“Ond yn amlwg, dydy pob sefydliad yn y wlad ddim wedi mynd ar y daith honno, ac mae’n glir i bawb nawr fod Clwb Criced Swydd Efrog yn un o’r sefydliadau hynny sydd wedi bod yn sownd yn yr oesoedd tywyll, ac mae angen i hynny newid.”

Azeem Rafiq

Awdurdodau criced yn ymrwymo i fynd i’r afael â hiliaeth

Y siroedd dosbarth cyntaf yn cytuno ar gynllun gweithredu 12 pwynt