Mae prif hyfforddwyr timau rygbi Cymru ac Awstralia yn anghydweld ynghylch cais dadleuol y canolwr Nick Tompkins wrth i Gymru guro Awstralia o 29-28 yng Nghaerdydd ddoe.

Cafodd Kurtley Beale, cefnwr Awstralia, gerdyn melyn am fwrw’r bêl ymlaen yn fwriadol ar ôl 22 munud, ac roedd Awstralia i lawr i 13 dyn am gyfnod ar ôl i’r wythwr Rob Valetini gael cerdyn coch am fynd benben ag Adam Beard, clo Cymru.

Roedd Dave Rennie, prif hyfforddwr Awstralia, yn gandryll wedi’r gêm, gan ddweud bod rhai o benderfyniadau’r dyfarnwr Mike Adamson yn “erchyll” a’i fod e wedi cyfrannu’n sylweddol at y canlyniad.

Mae’n dweud ei fod e’n disgwyl cael ymddiheuriad, ond bod ei dîm yn “haeddu gwell”.

Ond wrth ymateb, dywedodd Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, nad oedd e’n teimlo bod Tompkins wedi bwrw’r bêl ymlaen.

“Dw i ddim yn meddwl ei fod e wedi bwrw ymlaen yn bersonol, a doedd y dyfarnwr ddim chwaith, na’r dyfarnwr teledu, na’r llumanwyr na neb yn ein blwch hyfforddi,” meddai.

“Mae hi ond yn dangos na allwch chi stopio.

“Rhaid i chi chwarae yn ôl y chwiban.

“Rydych chi’n dweud hynny wrth blant pump oed.

“Roedden ni’n bles ag ymdrechion Nick yn y fan honno.”

Ychwanegodd mai’r gwrthwynebwyr ddylai siarad am gardiau coch – y chweched tro mewn 12 o gemau yn erbyn Cymru mae tîm wedi colli chwaraewr i gerdyn coch.

Gôl gosb hwyr yn achub Cymru yn erbyn Awstralia

Buddugoliaeth o 29-28 i dîm Wayne Pivac yn Stadiwm Principality