Mae Brendan Rodgers, cyn-reolwr Abertawe, yn y ras am swydd rheolwr Manchester United.
Daw hyn ar ôl i Ole Gunnar Solskjaer gael ei ddiswyddo heddiw (dydd Sul, Tachwedd 21).
Mae Rodgers wedi gwneud cryn argraff gyda Chaerlŷr (Leicester City), gan ennill Cwpan FA Lloegr y tymor diwethaf a gorffen yn bumed yn Uwch Gynghrair Lloegr ddau dymor yn olynol.
Mae e wedi bod yn rheolwr ar Lerpwl, gan ennill yr Uwch Gynghrair yn 2014, ac ar Celtic yn yr Alban, lle enillodd e saith tlws dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner.
Ond yng Nghymru, fe fydd e’n cael ei gofio fel y rheolwr wnaeth arwain Abertawe i Uwch Gynghrair Lloegr yn 2011.
Ole Gunnar Solskjaer
Roedd sôn ers tro bod Solskjaer, cyn-ymosodwr Norwyaidd Manchester United a chyn-reolwr Caerdydd, yn debygol o golli ei swydd.
Daeth y penderfyniad i’w ddiswyddo ar ôl iddyn nhw golli o 4-1 yn erbyn Watford ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 20).
Cafodd ei benodi fis Rhagfyr 2018 ar ôl derbyn y swydd dros dro i olynu Jose Mourinho.
Bydd Solskjaer yn cael ei gofio yn Old Trafford am ei ran yn llwyddiant y tîm enillodd y trebl yn 1999.
Michael Carrick, cyn-chwaraewr arall, yw’r rheolwr dros dro a bydd y clwb yn chwilio am olynydd i Solskjaer tan ddiwedd y tymor.
Mae’n bosib y gallen nhw roi’r cyfrifoldeb yn nwylo Carrick, sydd wedi bod yn aelod o dîm hyfforddi’r clwb ers ymddeol yn 2018, ar ôl 12 mlynedd gyda’r tîm.
Yr ymgeiswyr posib
- Zinedine Zidane (heb glwb)
Y Ffrancwr 49 oed yw’r ffefryn yn ôl y bwcis.
Fe fu’n ddi-waith ers gadael Real Madrid yn gynharach eleni, ac yntau wedi ffraeo sawl gwaith â Gareth Bale yn ystod cyfnod y Cymro gyda mawrion Sbaen.
Cafodd ei benodi yno yn 2016, gan ennill LaLiga a Chynghrair y Pencampwyr dair gwaith.
Gadawodd y clwb yn 2018 ond fe ddychwelodd ddeg mis yn ddiweddarach, gan ennill y gynghrair eto cyn gadael ym mis Mai.
- Mauricio Pochettino (PSG)
Mae lle i gredu bod yr Archentwr wedi mynegi diddordeb yn y swydd yn y gorffennol.
Roedd e ar gael am gyfnod ar ôl cael ei ddiswyddo gan Spurs fisoedd ar ôl cyrraedd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2019.
Cafodd ei benodi’n rheolwr ar glwb Paris Saint Germain yn Ffrainc ddechrau’r flwyddyn, lle mae’n rheolwr ar rai o’r mawrion gan gynnwys Lionel Messi, Neymar a Kylian Mbappe.
- Erik Ten Hag (Ajax)
Roedd rheolwr 51 oed Ajax yn rheolwr ar Go Ahead Eagles, ail dîm Bayern Munich ac Utrecht yn y gorffennol cyn mynd am Amsterdam yn 2017.
Fe wnaeth e arwain ei dîm i rownd gyn-derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2019 cyn iddyn nhw golli yn erbyn Spurs o dan reolaeth Pochettino.
Mae e wedi ennill cynghrair yr Eredivisie ddwywaith, Cwpan KNVB ddwywaith a Tharian Johan Cruyff.
Maen nhw driphwynt y tu ôl i PSV ar y brig ar hyn o bryd.