Mae Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn dweud ei fod yn disgwyl i dîm y merched dderbyn yr un cyflog â’r dynion o fewn blwyddyn.
Fe fu’n siarad ar raglen Sunday Politics Wales y BBC, gan egluro sut mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi mynd ati i fuddsoddi yng ngêm y merched ac mewn pêl-droed ar lawr gwlad.
Wrth i dîm y dynion sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd 2022, wrth geisio cymhwyso am y tro cyntaf ers 1958, mae tîm y merched wedi torri eu record yn ddiweddar am y nifer fwyaf o gefnogwyr mewn gêm yng Nghymru, gyda thros 5,000 o bobol wedi gwylio’r gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd.
Lansiodd y Gymdeithas Bêl-droed strategaeth newydd yn ddiweddar, gyda’r nod o gynyddu nifer y dynion sy’n chwarae pêl-droed o 90,000 i 120,000 a nifer y merched sy’n chwarae o 10,000 i 20,000.
Mae hefyd yn ceisio gwella’r cyfleusterau sydd ar gael i chwarae ar lawr gwlad.
“Rydyn ni ymhell ar ei hôl hi yn nhermau lle mae angen i ni fod o ran cyfleusterau ar gyfer pêl-droed ar lawr gwlad,” meddai Noel Mooney.
“Mae gyda ni restrau aros ym mhob man ar gyfer merched a bechgyn sydd eisiau chwarae pêl-droed.”
Ond mae canran sylweddol o gaeau’n eiddo’r cynghorau lleol ar hyn o bryd, ac mae problemau ariannol a diffyg buddsoddiad yn golygu nad yw’r cyfleusterau’n ddigon da fel ag y maen nhw.
I’r perwyl hwnnw, meddai, mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn cynnal arolwg o gaeau ledled Cymru.
“Rydyn ni’n gwirio’r holl bentrefi, yr holl drefi sydd â chlybiau, gyda’r awdurdodau lleol, felly rydyn ni’n gofyn i’r awdurdodau lleol beth yw eu stoc o gaeau lleol, beth yw eu cynlluniau ar gyfer trosglwyddo asedau yn ôl i’r clybiau, ac yn y blaen, felly mae hynny ar y gweill am y deufis nesaf,” meddai.
“Gobeithio, cyn y Nadolig, byddwn ni’n gwybod faint fydd hi’n costio i ni adeiladu’r caeau sydd eu hangen arnon ni ledled Cymru.
“Dw i’n credu y bydd y bil hwnnw yn uwch na £100m.”
Sut mae tyfu gêm y merched?
Mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru y nod o ddyblu maint gêm y merched, ac o sicrhau cydraddoldeb rhwng gêm y dynion a’r merched.
Ond sut fydd hynny’n cael ei gyflawni?
“Yn gyntaf oll, o ran gêm y merched, mae’r galw amdani wedi cynyddu mor gyflym,” meddai.
“Dyma’r rhan o’n gêm sy’n tyfu gyflymaf.
“Yn nhermau ochr elit y gamp, rydyn ni newydd ddod i gytundeb newydd â’r tîm sy’n arwain tîm cenedlaethol y merched.
“Ar [y tîm hwnnw], mae gyda chi bobol fel Jess Fishlock, Sophie Ingle, Tash Harding, Helen Ward…
“Fe wnaethon ni gyfarfod â nhw dipyn yn ddiweddar, ac roedd gyda ni berthynas dda.
“Cymdeithas Bêl-droed Cymru sy’n gwario’r swm mwyaf ar gêm ryngwladol y merched o blith yr holl gymdeithasau pêl-droed yn Ewrop fel canran o’n trosiant.
“Felly rydyn ni wedi lluosi ein cyllideb ar gyfer gêm y merched, rydyn ni wedi cael trafodaethau da iawn gyda’r merched, ac rydyn ni wedi cynyddu eu cyflogau’n sylweddol am chwarae mewn gemau rhyngwladol.
“Yn y blynyddoedd aeth heibio, doedd merched ddim yn cael eu trin yr un fath â dynion o ran sut roedden nhw’n derbyn gofal.
“Maen nhw bellach yn defnyddio’r un caeau, yr un hediadau siartredig, yr un cogydddion…
“Yn wir, mae ganddyn nhw ofal ychwanegol.
“Does gyda ni ddim pryderon am y peth, rydyn ni i gyd wedi ein halinio o ran yr hyn rydyn ni’n ceisio’i wneud yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru a thrwy ein timau cenedlaethol, felly rydyn ni mewn lle da iawn o ran hynny, a dw i’n credu y byddwch chi’n ein gweld ni’n dod yn agos at, os nad cydraddoldeb llawn o ran cyflogau yn y flwyddyn nesaf.”
Trafod â Llywodraeth Cymru
Wrth i’r dynion herio Belarws yn ddiweddar, daeth cyfle i Noel Mooney gyfarfod â’r prif weinidog Mark Drakeford ac Ysgrifennydd yr Economi, Vaughan Gething.
Daeth y cyfarfod ar drothwy Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru.
“Cawson ni gyfle gwych i siarad am faterion mae pêl-droed yng Nghymru’n eu hwynebu, felly yn y Gyllideb Ddrafft sydd ar y gweill, hoffen ni weld cyllideb isadeiledd cyfalaf chwaraeon y gall pêl-droed, fel y gamp fwyaf i gyfranogwyr, gael mynediad iddi i fynd tuag at adeiladu’r caeau hyn,” meddai wedyn.