Mae Elfyn Evans, y Cymro Cymraeg o Ddolgellau, wedi gorffen yn ail ym Mhencampwriaeth Ralio’r Byd.
Y Ffrancwr Sébastien Ogier sydd wedi cipio’r bencampwriaeth, a hynny am yr wythfed tro mewn naw tymor.
Daeth rali Monza yn yr Eidal i ben heddiw, gyda’r Cymro a’i gyd-yrrwr Scott Martin 7.3 eiliad y tu ôl i’r pencampwr a’i gyd-yrrwr Julien Ingrassia.
Newidiodd y flaenoriaeth yn y rali olaf chwe gwaith cyn i Elfyn Evans droelli yn ystod y prawf cyflymdra olaf ond un.
Roedd angen i Evans ennill y rali a gobeithio nad oedd Ogier yn gorffen yn uchel yn y ras er mwyn bod â llygedyn o obaith o gipio’r bencampwriaeth.
Dyma’r ail dymor yn olynol iddo fe ddod yn agos at ennill y bencampwriaeth, ond gydag Ogier yn ymddeol ar ddiwedd y tymor, mae’n debygol iawn y caiff e gyfle arall i fynd amdani.
Dani Sordo orffennodd yn y trydydd safle, 14 eiliad y tu ôl i’r Cymro.
Congrats to Seb and Julien, they’ve had a great season ? https://t.co/JQd2gpl3Vi
— Elfyn Evans (@ElfynEvans) November 21, 2021