Yn dilyn ffenestr ryngwladol lwyddiannus iawn, yn ôl gyda’u clybiau yr oedd chwaraewyr Cymru’r penwythnos hwn.
*
Uwch Gynghrair Lloegr
Os fydd Cymru yn cyrraedd Qatar, prinder munudau’r chwaraewyr rheiny sydd yn chwarae ar y lefel uchaf fydd ein prif bryder. Penwythnos arall yn Uwch Gynghrair Lloegr a phenwythnos arall digon distaw i’r Cymry.
Eilyddion heb eu defnyddio a oedd y gôl-geidwaid, Danny Ward ac Wayne Hennessey, ond efallai nad drwg o beth mo hynny gan i’w timau, Caerlŷr a Burnley, ildio tair yn erbyn Chelsea a Crystal Palace! Nid oedd Connor Roberts hyd yn oed yng ngharfan Burnely ar gyfer y gêm gyfartal dair gôl yr un ar Turf Moor.
Creodd Neco Williams argraff ar bawb gyda’i berfformiadau dros Gymru, gan gynnwys ei reolwr clwb, Jurgen Klopp, yn ôl y sôn. Ond does dim dwywaith nad yw’r Almaenwr yn ymddiried ynddo yn amddiffynnol ac nid oedd yn y garfan ar gyfer y fuddugoliaeth o bedair i ddim yn erbyn Arsenal yn Anfield nos Sadwrn. Roedd hynny hyd yn oed gydag un o’r cefnwyr rheolaidd, Andy Robertson, allan gydag anaf. Yn wir, Cymro ifanc arall, Owen Beck, a oedd yr opsiwn ar y fainc ar gyfer y safle hwnnw.
Tottenham a Leeds yw gobaith gorau’r Cymry am gêm y tymor hwn ac roedd y ddau dîm yn wynebu’i gilydd ddydd Sul. Dechreuodd Dan James y gêm a rhoi Leeds ar y blaen toc cyn yr egwyl gyda’i gôl gyntaf dros y clwb. Yn ôl y daeth Spurs yn yr ail hanner serch hynny ac ennill y gêm o ddwy gôl i un. Chwaraeodd Ben Davies yn yr amddiffyn ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Joe Rodon. Roedd Tyler Roberts yn eilydd hwyr i Leeds ond ni lwyddodd i greu llawer o argraff.
*
Y Bencampwriaeth
Cododd Caerdydd yn glir o safleoedd y gwymp gyda buddugoliaeth dda o ddwy gôl i un oddi cartref yn erbyn Preston. Will Vaulks a oedd un o sêr yr Adar Gleision, yn taro’r postyn cyn creu gôl gyntaf ei dîm i Mark McGuinness. Nid oedd Kieffer Moore yn y garfan ar ôl dychwelyd o garfan Cymru gyda mân anaf ond dechreuodd Rubin Colwill ac Isaak Davies yn y llinell flaen cyn i Davies gael ei eilyddio am Mark Harris toc wedi’r awr. Prynhawn i’w anghofio i’r gŵr o Gaerdydd yn amddiffyn Preston, Andrew Hughes.
Gêm gyfartal gôl yr un a gafodd Abertawe gartref yn erbyn Blackpool. Chwaraeodd Beb Cabango yn yr amddiffyn ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd yr ymosodwr, Liam Cullen. Roedd Jamie Peterson yn nhîm yr Elyrch hefyd a hynny am y tro cyntaf ers iddo ddatgelu fod ei daid yn dod o Gastell Nedd! Mae Chris Maxwell yn parhau i fod allan o garfan Blackpool gydag anaf.
Mae tymor Harry Wilson yn mynd o nerth i nerth. Creodd y bachgen o Gorwen un gôl a sgorio un arall wrth i Fulham guro Barnsley o bedair gôl yr un a chodi i frig y tabl.
Maent yn cymryd lle Bournemouth wedi iddynt hwythau golli’n annisgwyl yn erbyn Derby ddydd Sul. Dechreuodd Chris Maepham i’r Cherries a serennodd Tom Lawrence i Derby. Roedd hi’n wythnos anodd i’r Meheryn, yn colli naw pwynt arall am dorri rheolau ariannol, a hynny ar ôl colli deuddeg pwynt arall ar ddechrau’r tymor am fynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Ni wnaeth hynny eu heffeithio yn y gêm hon wrth i’r capten, Lawrence, sgorio dwywaith i ennill y gêm o dair i ddwy, y gyntaf yn ergyd grefftus a’r ail o’r smotyn.
Cododd Stoke i’r pedwerydd safle gyda buddugoliaeth o ddwy i ddim yn erbyn Peterborough ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Adam Davies, James Chester a Joe Allen y 90 munud i’r Potters a daeth Morgan Fox i’r cae fel eilydd am ei ymddangosiad cyntaf ers misoedd yn dilyn anaf. Mae’r golled yn rhoi Peterborough a’u gôl-geidwad David Cornell yn y tri isaf.
Hull sydd yn codi dros y Posh ar ôl trechu Birmingham o ddwy gôl i ddim. Ar y fainc yr oedd Matthew Smith i Hull ond ymddangosodd Jordan James fel eilydd hanner amser i’r gwrthwynebwyr.
Dechreuodd Sorba Thomas fuddugoliaeth Huddersfield o gôl i ddim yn erbyn West Brom.
Aeth Neil Taylor yn syth i mewn i garfan Middlesbrough ar gyfer eu gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Millwall ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd y cefnwr chwith profiadol a ymunodd â Boro yr wythnos hon. Ar y fainc yr oedd Tom Bradshaw i’r gwrthwynebwyr hefyd.
Chwaraeodd Brennan Johnson y 90 munud i Nottingham Forest yn ôl ei arfer wrth iddynt gael gêm gyfartal yn Reading. Cyfartal a oedd hi rhwng Sheffield United a Coventry hefyd ond nid oedd Rhys Norrington-Davies yng ngharfan y Blades.
QPR aeth â hi yn y gêm nos Wener yn erbyn Luton. Chwaraeodd Tom Lockyer yn amddiffyn Luton ond dechrau a gorffen y gêm ar fainc QPR a wnaeth George Thomas.
*
Cynghreiriau is
Arhosodd Plymouth ar frig yr Adran Gyntaf er iddynt golli o ddwy i ddim yn erbyn Charlton. Dechreuodd James Wilson i Plymouth a chafodd Luke Jephcott ugain munud oddi ar y fainc. Eilydd a oedd Chris Gunter i Charlton ac Adam Matthews ddim yn y garfan.
Sam Vokes a sgoriodd unig gôl y gêm wrth i Wycombe guro Bolton. Ar y fainc yr oedd Joe Jacobson ac Adam Przybek i Wycombe ond dechreuodd Declan John, Lloyd Isgrove a Jordan Williams i Bolton. Roedd hi’n brynhawn i’w anghofio i Williams mewn gwirionedd, yn ildio cic o’r smotyn yn yr hanner cyntaf cyn cael ei eilyddio yn gynnar yn yr ail. Nid oedd Gethin Jones na Josh Sheehan yn y garfan.
Ar ôl serennu i Gymru nos Fawrth, cafodd Joe Morrell ei orffwys ar ddechrau gêm Portsmouth yn erbyn Wimbledon. Dechreuodd Cymro arall, Louis Thompson, yn ei le ond daeth Morrell i’r cae ac ef a greodd y gôl fuddugol hwyr i Marcus Harness, dwy i un y sgôr. Roedd Ellis Harrison yn eilydd hwyr i Pompey hefyd ond aros ar y fainc a wnaeth Kieron Freeman.
Yn rhoi cystadleuaeth i Bolton a Portsmouth fel clwb mwyaf Cymreig yr Adran Gyntaf y mae Crewe. Dechreuodd dim llai na phedwar eu buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn erbyn Gillingham, Dave Richards yn y gôl, Billy Sass-Davies a Zac Williams yn yr amddiffyn a Tom Lowery yng nghanol cae. Yn wir, Lowery a sgoriodd yr ail gôl ym munudau olaf y gêm.
Roedd ymddangosiadau prin i ddau flaenwr ifanc sydd ar fenthyg yn yr Adran Gyntaf o glybiau yn yr Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth. Dechreuodd Chris Norton, sydd ar fenthyg o Stoke, i Cheltenham wrth iddynt guro’r Amwythig o ddwy gôl i un. Dechreuodd Nathan Broadhead, sydd ar fenthyg o Everton, fuddugoliaeth Sunderland yn erbyn Ipswich hefyd. Roedd Lee Evans yn nhîm Ipswich ar gyfer y gêm honno ond nid oedd Wes Burns yn y garfan.
Roedd y dibynadwy, Regan Poole, yn nhîm Lincoln unwaith eto ar gyfer eu gêm gyfartal ddi sgôr yn Doncaster.
Yn yr Ail Adran, cododd Swindon dros Gasnewydd yn y tabl gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i un ar Rodney Parade. Chwaraeodd Jonny Williams hanner awr fel eilydd i’r ymwelwyr ond dechreuodd Oli Cooper i’r tîm cartref.
*
Yr Alban a thu hwnt
Colli a fu hanes Ryan Hedges a Marley Watkins gydag Aberdeen yn erbyn Dundee Utd yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sadwrn. Chwaraeodd y ddau Gymro 90 munud i Aberdeen ond nid oedd Dylan Levitt yng ngharfan y gwrthwynebwyr wrth iddo barhau i ddioddef â’r anaf a gadwodd ef allan o garfan Cymru.
Dechreuodd Ben Woodburn golled Hearts o ddwy gôl i ddim oddi cartref yn erbyn Motherwell.
Ym Mhencampwriaeth yr Alban, roedd llechen lân brin iawn i Owain Fôn Williams a buddugoliaeth brinnach fyth i Dunfermline wrth iddynt guro Ayr o dair i ddim.
Cyrhaeddodd Hibs rownd derfynol Cwpan y Gynghrair gyda buddugoliaeth wych o dair gôl i un dros Rangers yn Hampden ddydd Sul. Roedd Christian Doidge yn ôl yn y garfan wedi cyfnod hir gydag anaf a daeth i’r cae am y deg munud olaf i gymryd lle arwr y prynhawn, y sgoriwr hatric, Martin Boyle.
Yng Ngwlad Belg, mae Cercle Brigge yn aros tua gwaelodion y Pro League ar ôl colli o ddwy gôl i un yn erbyn Charleroi. Dechreuodd Rabbi Matondo y gêm cyn cael ei eilyddio ddeunaw munud o’r diwedd.
Yn yr Almaen, ildiodd St. Pauli eu lle ar frig y 2. Bundesliga i Darmstadt ar ôl cael cweir ganddynt o bedair gôl i ddim ddydd Sadwrn. Yr unig gysur ar nodyn personol i’r amddiffynnwr, James Lawrence, a oedd y ffaith i’w dîm ildio’r pedair gôl cyn iddo ddod i’r cae fel eilydd am yr ail hanner!
Stori gyfarwydd â oedd hi yn yr Eidal wrth i Aaron Ramsey gael ei adael allan o dîm Juventus er gwaethaf ei gampau dros Gymru. Anaf arall yn ôl y rheolwr, Massimiliano Allegri. Taith i Bologna a oedd yr her i Venezia yn y Serie A ddydd Sul ond nid oedd Ethan Ampadu ar y bws.
Nid oedd Gareth Bale yng ngharfan Real Madrid ychwaith ar gyfer eu gêm La Liga hwy yn Granada ddydd Sul.