Mae Gerwyn Price wedi ennill Camp Lawn y byd dartiau am y trydydd tro mewn pedair blynedd.

Daeth ei fuddugoliaeth ddiweddaraf wrth i’r Cymro o sir Caerffili guro’r Albanwr Peter Wright o 16-8.

Dyma’r chweched tro iddo fe ennill un o’r prif gystadlaethau, a’i 23ain teitl PDC, ac mae’n golygu ei fod e’n sicr o’i le yn brif ddetholyn ar gyfer Pencampwriaeth y Byd 2022.

Sgoriodd Price wyth sgôr o 180 yn y rownd derfynol, gan orffen yr ornest gyda chyfartaledd tri dart o 103.9 gan lwyddo gyda 47% o’i ymdrechion at sgôr i ennill gemau.

Roedd Wright wedi ennill ei bum gêm derfynol ddiwethaf o flaen y camerâu teledu – y tro blaenorol iddo golli oedd rownd derfynol yr un gystadlaeuth yn erbyn Price ddwy flynedd yn ôl.

Fe wnaeth Price guro Jonny Clayton yn rownd yr wyth olaf, cyn trechu James Wade o 16-9 yn y rownd gyn-derfynol.

Hon oedd wythfed rownd derfynol Price y tymor hwn – dim ond Clayton sydd wedi rhagori ar hynny eleni, gyda naw.

Jonny Clayton Gerwyn Price

Gerwyn Price a Jonny Clayton yn cwrdd yn rownd wyth olaf y Gamp Lawn

Mae’r Cymro Cymraeg Jonny Clayton wedi trechu ei gyd-Gymro ddwywaith yn ddiweddar