Mae’r gwaith wedi dechrau ar rwydi ac ardal chwarae criced newydd i blant er cof am Tom Maynard yn stadiwm Gerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Bu farw’r cricedwr 23 oed yn 2012, ac fe fu’n chwarae i Forgannwg cyn ymuno â Surrey.

Mae’r ardal newydd yn cael ei datblygu gan ddefnyddio’r £21,000 gododd ei dad, prif hyfforddwr Morgannwg Matthew Maynard, yn ystod taith gerdded Wellyman Walking, taith o amgylch Cymru yn ei welingtons wrth iddo fe hefyd gwblhau’r Her Tri Chopa.

Ac roedd e yno heddiw (dydd Llun, Tachwedd 22) i dorri tywarchen i nodi dechrau’r gwaith.

Bydd yr ardal chwarae newydd yn cynnwys pedair lôn o fewn y rhwydi, ac fe fydd yn adlewyrchu hoffter Tom Maynard o chwarae ar ymyl y cae pan oedd e’n blentyn.

‘Colli ardal chwarae’

“Ers i’r cae gael ei ailddatblygu, rydan ni wedi colli ardal lle gall plant chwarae ac ymarfer eu sgiliau yn ystod gemau,” meddai Matthew Maynard.

“Gan mai Wellyman Walking oedd yr her fawr olaf i godi arian ar gyfer yr Ymddiriedolaeth, roedden ni’n meddwl y byddai’n braf gadael gwaddol yn ei lle ar gyfer yr Ymddiriedolaeth ac i Tom.

“Yn garedig iawn, mi wnaeth y clwb gytuno y gallem fwrw iddi efo’r gwaith a rhannu’r prosiect hwn efo nhw.

“Rydym wrth ein boddau fod yr arian gafodd ei godi o’r daith gerdded wedi mynd y tu hwnt i’r £20,000 oedd ei angen i’r prosiect gael mynd yn ei flaen, ac y gallwn ni gael cyfleuster yn ei le yng Ngerddi Sophia yn enw Tom y bydd plant a theuluoedd yn gallu ei fwynhau.”

 

Matthew Maynard

Taith o Gaerdydd i Fae Colwyn mewn welingtons yn dod i ben ar ôl codi dros £20,000

Cerddodd Matthew Maynard bob cam, gan ddringo Tri Chopa Cymru, dros gyfnod o 12 diwrnod er cof am ei fab Tom
Matthew Maynard ar ben mynydd Pen-y-fan

O Gaerdydd i Fae Colwyn mewn welingtons i sicrhau lle chwarae i blant

Alun Rhys Chivers

Bydd Matthew Maynard yn cerdded bob cam ac yn dringo’r Tri Chopa er cof am ei fab Tom