Mae Matthew Maynard, prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg, wedi cwblhau ei daith gerdded o Gaerdydd i Fae Colwyn mewn welingtons ar ôl mynd y tu hwnt i’w darged ariannol o £20,000.

Dros gyfnod o 12 diwrnod, cerddodd e 230 o filltiroedd er cof am ei fab Tom, cyn-gricedwr Morgannwg a Surrey, fu farw’n 23 oed yn 2012.

Y nod oedd codi arian fel bod modd adeiladu rhwydi criced newydd yng Ngerddi Sophia er mwyn sicrhau lle chwarae i blant, yn union fel y byddai Tom yn ei wneud yn fachgen ifanc yn mynd i wylio’i dad yn chwarae i’r sir.

Dechreuodd y daith yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd ar Hydref 8, ac fe ddaeth i ben yng Nghlwb Criced Bae Colwyn, lle chwaraeodd Tom ei gêm gyntaf i Forgannwg.

Fe ddringodd e’r Tri Chopa – Pen y Fan, yr Wyddfa a Chader Idris – fel rhan o’r her.

Yn cadw cwmni iddo ar gymal ola’r daith roedd Ceri, ei ferch a chwaer Tom, ynghyd â nifer o unigolion eraill.

Hon yw’r her olaf yn enw Ymddiriedolaeth Tom Maynard ar ôl naw mlynedd o godi arian, er y bydd y gêm griced flynyddol yn Sain Ffagan yn parhau.

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi codi dros £500,000 ers ei sefydlu naw mlynedd yn ôl.

‘Diolch’

“Diolch i bawb ymunodd efo fi ar y daith gerdded ac a gyfrannodd at yr achos,” meddai Matthew Maynard ar ôl cwblhau’r daith.

“Rwy’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth dwi wedi’i derbyn yn ystod yr her gan ein haelodau, ein cefnogwyr a’r gymuned griced ehangach.

“Bu’n antur go iawn yn fy welis, a dw i’n teimlo ychydig yn flinedig, ond ro’n i wrth fy modd o gael gwybod pan ddaru fi ddeffro bore ’ma ein bod ni wedi cyrraedd y targed ddaru ni ei osod.

“Efo’r arian rydan ni wedi’i godi, gallwn ni adeiladu ardal rwydi yn enw Tom fedr hogia a genethod fwynhau ymarfer ei sgiliau criced yn ddiogel ynddi, fel roedd Tom yn medru’i wneud yn blentyn.

“Mae’r her wedi bod yn un wna i fyth ei hanghofio a rŵan rydan ni wedi cyrraedd y targed, mae’n ei gwneud yn fwy arbennig fyth a’r holl bothelli’n werthchweil.”

‘Ymdrech lew’

“Bu’n ymdrech lew gan Matt a hoffai pawb yn y clwb ei longyfarch ar ei gamp ddiweddaraf,” meddai Hugh Morris, prif weithredwr a chyd-aelod o dîm Morgannwg gyda Matthew Maynard yn y 1990au.

“Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud gan Matt ac Ymddiriedolaeth Tom Maynard dros y naw mlynedd diwethaf wedi bod yn gwbl ragorol ac mae wedi helpu llawer o bobol ar hyd y ffordd.

“Bydd yr arian sydd wedi’i godi yn ystod yr her ddiweddaraf hon yn creu cyfleusterau yng Ngerddi Sophia i blant gael chwarae ac ymarfer ynddyn nhw’n ddiogel, ac mae’n waddol yn enw Tom y byddai’n falch iawn ohoni.

“Bydd y gwaith ar y rhwydi’n dechrau cyn gynted â phosib, ac mi fydd yn fraint eu cael nhw yn enw Tom.”

Matthew Maynard ar ben mynydd Pen-y-fan

O Gaerdydd i Fae Colwyn mewn welingtons i sicrhau lle chwarae i blant

Alun Rhys Chivers

Bydd Matthew Maynard yn cerdded bob cam ac yn dringo’r Tri Chopa er cof am ei fab Tom