Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd ar-lein y penwythnos hwn i nodi canmlwyddiant penodi T.H. Parry-Williams yn athro yno.

Yn ystod y gynhadledd ddydd Sadwrn, 23 Hydref, bydd siaradwyr yn edrych ar gyfraniad y bardd at ddysg a llenyddiaeth Gymraeg, a bydd papurau sy’n trafod y bardd yn cael eu cyhoeddi’n arbennig.

Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei drefnu gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol, hefyd wedi derbyn nawdd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Fe gafodd T.H. Parry-Williams ei benodi yn ddarlithydd cynorthwyol yn yr Adran Gymraeg yn 1914, cyn ymgeisio i fod yn Athro a Phennaeth yn hwyrach ymlaen yn 1920.

Treuliodd 32 mlynedd yn y swydd honno, cyn ymddeol yn 1952.

Er mai llynedd oedd y canmlwyddiant, mae’n debyg bod y pandemig wedi effeithio ar drefniant unrhyw ddathliadau bryd hynny.

Trefniadau

Dr Bleddyn Owen Huws yw trefnydd y gynhadledd ac un o siaradwyr y diwrnod.

“Rydym fel Adran yn awyddus i nodi canmlwyddiant penodi T. H. Parry-Williams yn Athro’r Gymraeg yn Aberystwyth a dathlu ei gysylltiad â’r Brifysgol a’r cyfraniad a wnaeth i ddysg a llenyddiaeth Gymraeg,” meddai.

“Rydym yn ffodus fod gennym raglen mor gyfoethog o bapurau yn trafod amrywiol agweddau ar ei feddwl a’i waith.”

Bydd modd gweld y digwyddiad am ddim ar sianel YouTube yr Adran am 10:00yb ddydd Sadwrn yma (Hydref 23).

Hefyd, bydd y papurau gan y siaradwyr, sef Dr Bleddyn Owen Huws, Dr Llion Jones, Yr Athro Emyr Lewis, Yr Athro Angharad Price, Ioan Talfryn, a’r Athro Howard Williams, yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau’r digwyddiad ar y sianel YouTube.