Yr argyfwng hinsawdd yw prif ysbrydoliaeth y gwaith buddugol yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2020-21, meddai’r enillydd wrth siarad â golwg360.

Cafodd Megan Angharad Hunter o Benygroes, Dyffryn Nantlle ei gwobrwyo neithiwr (nos Lun, Hydref 18), am ei gwaith ar y testun ‘Mwgwd/Mygydau’.

Drwy gydol yr wythnos hon, mae’r Urdd yn gwobrwyo’r gwaith buddugol ddaeth i law ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020.

Bu’n rhaid gohirio’r Eisteddfod honno yn Ninbych y llynedd, ac eto eleni, oherwydd cyfyngiadau’r pandemig.

Roedd ennill y Goron “mor annisgwyl”, meddai Megan Angharad Hunter, a enillodd Llyfr y Flwyddyn eleni am ei nofel gyntaf, tu ôl i’r awyr.

Mae’r darn buddugol wedi’i osod mewn byd “ôl-apocolyptaidd”, ac wedi’i ysgrifennu mewn dau arddull gwahanol, ac roedd y beirniaid Siân Northey a Casia Wiliam yn ddiamheuaeth mai darn Lina [ffugenw Megan] oedd yn haeddu’r Goron.

“Mae hi bron yn ddwy flynedd ers i fi orffen y gwaith,” meddai Megan Angharad Hunter, sy’n fyfyrwraig trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, yn astudio cwrs BA mewn Cymraeg ac Athroniaeth.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl dim byd, ac roedd y darn roeddwn i wedi’i ysgrifennu mor wahanol i unrhyw beth arall dw i wedi’i ysgrifennu felly roeddwn i jyst yn edrych ymlaen at glywed be oedd y beirniad yn feddwl yn fwy na dim byd.

“Dw i mor ddiolchgar i’r Urdd am yr anrhydedd, achos mae ennill un o brif wobrau’r Urdd yn gymaint o anrhydedd a dw i mor ddiolchgar iddyn nhw am y cyfle.”

Yr argyfwng hinsawdd

Mae’r darn yn genre dystopaidd, ôl-apocolyptaidd, ffug-wyddonol, meddai Megan Angharad Hunter.

“Mae o’n gwbl wahanol i bopeth arall dw i wedi’i ysgrifennu, ond dw i’n meddwl mai’r ysbrydoliaeth oedd yr argyfwng hinsawdd, yn fwy na dim,” meddai.

“Yn bennaf, fe wnes i weld rhaglen ar y newyddion am ddinas yn Mongolia o’r enw Ulaanbaatar, y ddinas oedd efo’r mwyaf o lygredd aer yn y byd ar y pryd, ac roedd y saethiadau camera mor drawiadol.

“Fe wnaeth hynna ysbrydoli fi, ac roedd o mor erchyll ac mor drawiadol.

“Hefyd yr argyfwng hinsawdd o ran y llifogydd ac yn y blaen.

“Mae’n rywbeth dw i’n meddwl amdano fo’n aml, wel, dw i’n meddwl y dylai pawb boeni amdano fo’n aml, mewn ffordd, mae o’n argyfwng.

“Yn sicr, dyna’r peth wnaeth ysgogi’r byd, a’r lleoliad a sefyllfa’r cymeriadau.”

Dydi Megan Angharad Hunter ddim yn sicr ai ein byd ni yw’r byd yn y darn, ond mae’n “sicr yn y dyfodol”.

“Fe wnes i wir fwynhau sgwennu fo, achos mae o’n wahanol i sgwennu straeon realaidd achos ti’n gallu creu’r byd a chreu’r lleoliad a chreu cymuned, mae o’n gymaint o hwyl,” ychwanega.

“Er bod y stori ei hun yn eithaf tywyll, roedd o’n gymaint o hwyl gallu creu rhywbeth o’r newydd – nid jyst y cymeriadau, ond y byd maen nhw’n byw ynddo hefyd.”

Safbwynt plentyn

Mae hanner y darn wedi’i ysgrifennu fel llythyrau gan blentyn, ac felly mewn arddull plentyn, tra bod yr hanner arall mewn arddull mwy academaidd.

“Dyma’r tro cyntaf i fi sgwennu rhywbeth o safbwynt plentyn. Dw i wedi sgwennu o safbwynt oedolion ifanc o’r blaen, ond dwi ddim yn meddwl bod hynna’n wahanol iawn i safbwynt oedolyn,” meddai Megan Angharad Hunter wedyn.

Roedd tu ôl i’r awyr yn cyfuno dau arddull hefyd, un yn nhafodiaith lafar Nantlle a’r llall yn fwy ffurfiol.

“Dw i rili yn mwynhau sgwennu o safbwynt plentyn, doedd o ddim yn teimlo’n anodd achos maen nhw’n gymaint o hwyl.

“Er bod y stori’n eithaf tywyll a sefyllfa’r cymeriadau’n eithaf anodd, roedd y ffaith ‘mod i’n sgwennu o safbwynt plentyn yn gwneud o ychydig bach yn hapusach, bach yn fwy gobeithiol achos mae dychymyg plentyn mor wych.

“Mae hi mor neis gallu mynd yn ôl i’r meddylfryd yna o pan ti’n blentyn, pan oedd dy ddychymyg di’n mynd i bob man.”

Mae yna arddull mwy ysgolheigaidd yn y darn hefyd, sy’n cael ei ddefnyddio i egluro’r byd yn y darn.

“Achos fy mod i’n sgwennu o safbwynt llythyrau, fysa’r cymeriad ddim yn egluro’r byd yn y llythyrau, fysa hynna ddim yn realistig, so roeddwn i isio gwneud o mewn ffordd realistig a fysa’n gwneud i’r darllenydd ddallt be’ oedd yn mynd ymlaen.

“Roeddwn i isio cyfuno dau arddull gwahanol hefyd.”

Bydd y gwaith sy’n dod i’r brig yn gweld golau dydd drwy gyhoeddi Deffro – y cyfansoddiadau ar eu newydd wedd.

Mae’r gyfrol wedi ei churadu gan ddau o gyn-enillwyr Eisteddfod yr Urdd, sef y golygydd creadigol Brennig Davies a’r dylunydd Efa Lois, a bydd ar gael fel e-lyfr ac o siopau llyfrau Cymraeg lleol ddydd Gwener (Hydref 22).

 

Megan Angharad Hunter yw enillydd Coron yr Urdd 2020-21

“Pan yn cyd-feirniadu mae hi’n rhyddhad pan nad oes yna fymryn o amheuaeth gan y ddau feirniad pwy sydd ar y brig,” meddai’r beirniaid.