Mae Megan Angharad Hunter o Benygroes, Dyffryn Nantlle, wedi cipio Coron Eisteddfod yr Urdd 2020-21.

Roedd ei darn ar y thema ‘Mwgwd’ neu ‘Mygydau’ wedi plesio’r beirniaid, a oedd yn nodi bod yna ddim “mymryn o amheuaeth” mai darn Megan oedd yn haeddu’r Goron, ac y byddai ei chymeriadau yn “aros yn y cof am yn hir.”

Drwy gydol yr wythnos hon, mae’r Urdd yn gwobrwyo’r gwaith buddugol ddaeth i law ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020.

Bu’n rhaid gohirio’r Eisteddfod honno yn Ninbych y llynedd, ac eto eleni, oherwydd cyfyngiadau’r pandemig.

Fodd bynnag, mae’r Urdd wedi sicrhau y bydd y gwaith sy’n dod i’r brig yn gweld golau dydd drwy gyhoeddi ‘Deffro’ – y cyfansoddiadau ar eu newydd wedd.

Mae’r gyfrol wedi ei churadu gan ddau o gyn-enillwyr Eisteddfod yr Urdd, sef y golygydd creadigol Brennig Davies a’r dylunydd Efa Lois, a bydd ar gael fel e-lyfr ac o siopau llyfrau Cymraeg lleol ddydd Gwener (22 Hydref).

Enillydd Coron 2020-21

Mae Megan Angharad Hunter yn fyfyrwraig trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, yn astudio cwrs BA mewn Cymraeg ac Athroniaeth.

Ers cyflwyno ei darn buddugol i’r Urdd 18 mis yn ôl, mae Megan wedi profi llwyddiant fel prif enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 gyda’i nofel gyntaf, tu ôl i’r awyr.

Mae hi wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth y Goron o’r blaen, yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gwbl swreal,” meddai Megan.

“Cyhoeddi tu ôl i’r awyr ym mis Tachwedd 2020, ac wedyn ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn efo’r nofel honno, a rŵan y Goron!

Megan gyda thlws Llyfr y Flwyddyn 2021

“Dw i jest mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth – mi rydan ni mor lwcus yma yng Nghymru fod gennym ni’r cyfleoedd yma i arbrofi ac i ddatblygu ein sgiliau ni fel awduron.”

Y gystadleuaeth

Gofynion y gystadleuaeth eleni oedd cyflwyno darn neu ddarnau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau ar y testun ‘Mwgwd/Mygydau.’

Roedd y beirniaid Siân Northey a Casia Wiliam yn ddiamheuaeth mai darn Lina [ffugenw Megan] oedd yn haeddu’r Goron.

“Pan yn cyd-feirniadu mae hi’n rhyddhad pan nad oes yna fymryn o amheuaeth gan y ddau feirniad pwy sydd ar y brig,” medden nhw.

“Mae gwaith Lina yn ddarn uchelgeisiol sydd yn mynd â ni ymhell i’r dyfodol ac mae’n llenor dawnus efo meistrolaeth dros iaith sydd yn ei alluogi i ddefnyddio arddull ffug academaidd ar gyfer un darn a llythyrau wedi’u hysgrifennu gan blentyn ar gyfer y gweddill.

“Mae Ati a Jei ei frawd, ac Emyn ei ffrind, yn gymeriadau fydd yn aros yn y cof am yn hir.

“Llongyfarchiadau gwresog i Lina, mae’n llwyr haeddu Coron yr Urdd 2020.”

Cyhoeddwyd hefyd mai Prifardd Eisteddfod yr Urdd 2018 ac Eisteddfod T 2020, Osian Wyn Owen o’r Felinheli, oedd yn ail a thrydydd yn y gystadleuaeth, gyda darnau ar wahân.

Osian Wyn Owen o’r Felinheli, Prifardd Eisteddfod yr Urdd 2018 ac Eisteddfod T 2020, oedd yn ail a thrydydd yng nghystadleuaeth y Goron.

Dylunio’r Goron

Am ei gwaith buddugol, bydd Megan yn derbyn Coron, a gafodd ei ddylunio gan y crëwr Mared Davies.

Fe benderfynodd Mared ddehongli ymyrraeth Covid-19 o fewn ei dyluniad, a hynny drwy gyfuno tecstilau a metelau.

“Penderfynais wneud beth dwi’n gwneud orau, sef cyfuno deunydd meddal, lliwgar gyda deunydd caled, mwy tywyll – thecstilau â metelau,” meddai.

“Er bod y goron yn cyfleu adeg galed yn ein bywydau, yn weledol, mae’n edrych yn brydferth gyda’r holl droelli, ansawdd, lliw.

Coron yr Urdd eleni

“Nid yw coron yn rhywbeth y byddwn yn gwisgo pob dydd, felly, yn bersonol roedd hi yn bwysig iawn i mi i’w gwneud yn fwy cerfluniol gan ddefnyddio ffrâm yr wyneb.

“Gan gynnwys mwgwd wrth gwrs, y peth pwysicaf newydd yn ein bywydau sydd yn galluogi ein ‘normalrwydd’ newydd.”

Cwrs Olwen

Yn ogystal â’r Goron, bydd y ddau awdur ar frig y gystadleuaeth yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yng Nghwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru.

Bydd y cwrs yn cynnig penwythnos o weithdai ysgrifennu creadigol, cymdeithasu ag awduron ifanc eraill, a gwersi am y byd llenyddiaeth a chyhoeddi.

Mae’r cwrs wedi ei enwi er cof am y diweddar Olwen Dafydd, a fu’n gweithio yn ddiflino i ddarparu cyfleoedd datblygu i awduron ifainc yng Nghymru.

Fe gafodd y cwrs eleni gefnogaeth ariannol gan ffrindiau a theulu’r diweddar Grace Roberts o’r Felinheli.

Bydd gweddill yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi trwy gydol yr wythnos hon, gyda’r Fedal Gyfansoddi nos Fawrth, y Fedal Ddrama nos Fercher, a’r Gadair nos Iau – bydd y canlyniadau a sgyrsiau gyda’r enillwyr oll ar golwg360 drwy gydol yr wythnos.