Mae cael podlediad sy’n trafod anableddau yn Gymraeg yn “bwysig iawn”, yn ôl un o’r cyfranwyr.

Bob wythnos, bydd Hollie Smith, Beth Frazer, Mared Jarman ac Amber Davies yn trafod pynciau llosg a phroblemau pobol ifanc, gan gymryd eu tro i gadeirio tra bod y tair arall yn dadlau mai nhw sydd â’r broblem ‘waethaf’.

Mae’r pedair yn byw gydag anabledd, ac mae Probcast yn trafod rhwystrau penodol a phersonol iddyn nhw yn ogystal â phroblemau cyfoes y gall pawb uniaethu â nhw.

Yn ôl Amber Davies, sydd â llid briwiol y coluddyn (ulcerative colitis) ac sydd â bag stoma i gasglu gwastraff o’i chorff, mae cael podlediad sy’n trafod anableddau yn ‘beth prin’ yn Gymraeg.

Podlediad “pwysig”

“Fe wnaeth e ddod ar draws achos fe wnaethon ni wneud prosiect Medru – series o webinars i bobol ifanc gydag anableddau ac a oedd â diddordeb creu cynnwys neu ddysgu creu cynnwys,” meddai Amber Davies, sy’n 23 oed ac yn dod o Lanfair-ym-Muallt, wrth golwg360.

“Roedd yna guests gwahanol bob wythnos yn siarad am agweddau gwahanol o greu cynnwys, ac un o’r wythnosau roedd y tair merch arall yn guests am yr wythnos.

“Fe wnaethon ni jyst gelio yn dda, roedd e’n flowio’n dda ac roedden ni’n cael laugh.

“Fe wnaeth S4C benderfynu creu podcast gyda’r pedair ohonom ni, roedd e’n rili good, rili hwylus, upbeat ond yn educational ar yr un amser.

“Fe wnaeth e ddysgu fi lot o bethau, rydych chi’n meddwl eich bod chi’n gwybod am bopeth a phawb… Ond pethau bach, roedd Hollie yn sôn am tannoys mewn supermarkets, pethau sy’n creu difficulties iddi hi a’i hanabledd hi. Mae pethau fel yna’n iawn i fi.

“Lot o bethau gwahanol fel yna, fe wnaethon ni gael laugh ac amser da yr un pryd.”

Mae cael podlediad sy’n trafod y rhwystrau sy’n wynebu pobol ifanc ag anableddau neu salwch cronig yn “bwysig iawn”, meddai Amber Davies, sydd hefyd yn rhedeg y blog Inside Out lle mae gwesteion yn trafod bywyd gyda bag stoma.

“Doedd yna ddim byd fel yma jyst am anabledd fi yn Saesneg pan oeddwn i’n ifanc,” meddai.

“Felly i gael rhywbeth sy’n cyfro anableddau gwahanol, ac yn Gymraeg, mae’n bit of a rarity!

Mae’r podlediad yn trafod problemau cyfoes y gall pawb uniaethu â nhw, ac mae lot o’r problemau sy’n cael eu trafod yn rhai y “mae pawb yn delio gyda nhw o ddydd i ddydd”, meddai Amber Davies.

‘Agoriad llygad’

Roedd y podlediad yn “agoriad llygad i brofiadau pobl eraill yn y gymuned anabl” i Hollie Smith, sy’n newyddiadurwraig 23 oed o’r Wyddgrug.

“Fel rhywun byddar, profiad cyfyngedig sydd gen i o ran yr heriau sy’n wynebu pobol fyddar yn benodol – ond roedd cael clywed profiadau Mared, Amber a Beth wedi fy helpu i ddeall yr heriau sy’n bodoli ar raddfa ehangach – ac yn gyfle i rannu profiadau efo pobol sydd wir yn deall realiti byw efo anableddau yn yr unfed ganrif ar hugain,” meddai.

“Rydan ni gyd efo gwahanol anableddau neu salwch cronig, ac mae’n gyfle i siarad am bethau fysan ni’n licio newid – fel pobol sy’n rhy gyflym i farnu,” meddai Beth Frazer, sy’n dod o Ynys Môn.

“Mae un o’r genod bron yn ddall ac mae hi wedi cael pobol yn gweiddi arni wrth fynd mewn i doiled anabl.

“Tydi pob anabledd ddim yn visible felly gobeithio trwy wrando y bydd pobol yn fwy empathetic, yn meddwl cyn dweud pethau a bod ychydig fwy mindful.

“I fi, mae’n bwysig bod yn mindful be ydach chi’n ddweud ar-lein. Ges i fy seibr-bwlîo pam wnes i fundraise-io ar gyfer triniaeth i brain tumour fi.

“Roedd o’n rili scary ar y pryd – fe wnaeth un boi ddweud ei fod eisiau saethu fi. Pam mae pobol yn meddwl bod nhw’n gallu dweud pethau fel yna ar-lein?

“Ar un ochr, mae pŵer social media yn gallu bod yn amazing, ond yn sicr tydi online trolling ddim.”

Roedd y profiad o recordio’r podlediad yn “outlet“, meddai Beth Frazer, ac yn gyfle i drafod a rhyddhau popeth oedd wedi digwydd dros yr wythnos.

‘Cynulleidfa eang’

Daeth Probcast i fodolaeth ar ôl galwad am gyfranwyr gan y gwasanaeth digidol Hansh.

“Mae’r podlediad wedi tyfu allan o sesiynau mentora Medru Hansh – seminarau ar-lein ar gyfer crewyr cynnwys anabl, pobol ifanc sy’n angerddol am gynnwys ar-lein,” meddai Guto Rhun, Comisiynydd Cynorthwyol Ar-lein S4C.

“Mae’n wych gweld fod y syniadau hynny wedi datblygu â bellach yn cael eu rhannu â chynulleidfa eang Hansh.”

  • Gallwch wrando ar Probcast ar Spotify neu Apple Podcasts.