Bydd taith hirddisgwyledig y cerddor Stormzy yn dechrau yng Nghaerdydd yn 2022.
Bwriad y daith oedd hyrwyddo albwm y cerddor grime 28 oed o Lundain, Heavy Is The Head, a gafodd ei gyhoeddi yn 2019.
Mae’r cyngherddau wedi cael eu gohirio sawl gwaith yn sgil y pandemig, ond mae dyddiadau newydd wedi’u cadarnhau ar gyfer mis Mawrth ac Ebrill y flwyddyn nesaf.
Bydd y daith yn dechrau yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd ar Fawrth 13, a hon fydd taith fwyaf Stormzy o amgylch y Deyrnas Unedig hyd yn hyn.
Mae’r daith yn cynnwys tair noson yn yr O2 yn Llundain, ac ymweliadau â Manceinion, Lerpwl, Birmingham a Glasgow hefyd.
Daeth Stormzy, sy’n dod o Croydon yn ne Llundain, i enwogrwydd gyda’i gân ‘Shut Up’, a’i albwm cyntaf, Gang Signs and Prayer, sef yr albwm grime cyntaf i gyrraedd rhif un yn siartiau’r Deyrnas Unedig.
Cafodd ei enwi’n albwm y flwyddyn yng ngwobrau’r Brits yn 2018 hefyd.
Ym mis Rhagfyr 2020, llofnododd Stormzy gytundeb gyda label Def Jam, ar ôl gadael Atlantic Records, gan ymuno â rhai o enwau mwyaf miwsig rap gan gynnwys Kanye West, Nas a Public Enemy.