Mae llys wedi clywed bod y dyn oedd wedi trefnu hediad y pêl-droediwr Emiliano Sala wrth iddo baratoi i gwblhau ei drosglwyddiad o Nantes i Gaerdydd ‘wedi torri corneli am resymau ariannol’ drwy gyflogi peilot nad oedd yn gymwys i hedfan yr awyren.
Plymiodd yr awyren i’r môr fis Ionawr 2019, gan ladd Sala a’r peilot David Ibbotson, oedd yn 59 oed.
Doedd David Henderson, 67, ddim yn gallu hedfan yr awyren ei hun gan ei fod e ar ei wyliau gyda’i wraig yn Paris ar y pryd.
Ond fe drefnodd i David Ibbotson hedfan yr awyren yn ei le, er nad oedd ganddo fe drwydded i hedfan awyrennau masnachol a doedd dim hawl ganddo fe hedfan yn y nos.
Mae Henderson gerbron Llys y Goron Caerdydd ar hyn o bryd, wedi’i gyhuddo o beryglu diogelwch awyren.
Dadleuon yr erlynwyr
Clywodd y llys fod Henderson wedi anfon negeseuon at sawl person yn dweud wrthyn nhw am “gadw’n dawel” gan y gallai achosi cryn drafferth.
Roedd disgwyl i’r awyren deithio o Gaerdydd i Nantes ar Ionawr 19, 2019 ac yn ôl ddeuddydd yn ddiweddarach.
Mae’r erlynwyr yn dweud mai “buddiannau ariannol” oedd yn gyfrifol am benderfyniad Henderson i drefnu’r hediad ac nid “cariad at Mr Sala na Chlwb Pêl-droed Caerdydd”.
Cafwyd hyd i gorff Emiliano Sala yn y môr fis wedi’r digwyddiad, ond dydy corff David Ibbotson na gweddillion yr awyren ddim wedi cael eu canfod hyd heddiw.
Mae’r erlynwyr yn dadlau bod Henderson “wedi ymddwyn yn esgeulus neu’n ddiofal ac mewn modd oedd yn debygol o beryglu’r awyren a’r rheiny arni drwy greu perygl gwirioneddol na ddylid fod wedi’i anwybyddu”.
Maen nhw’n dweud ei fod e “wedi anwybyddu rhai gofynion pan oedd yn ei siwtio fe a’i fuddiannau busnes”.
Er bod David Ibbotson yn ddi-brofiad, mae’r erlynwyr yn dweud bod Henderson wedi dweud wrtho fod “parodrwydd i wrando a dysgu” yn bwysicach.
Dywed yr erlynwyr ymhellach fod Henderson wedi dweud celwydd wrth ateb cwestiynau ysgrifenedig ymchwilwyr, gan ddweud nad oedd e’n ymwybodol o ddiffyg cymhwysedd y peilot.
Mae Henderson, sy’n hanu o Swydd Efrog, yn gwadu un cyhuddiad o beryglu diogelwch awyren.
Mae e eisoes wedi pledio’n euog i un cyhuddiad o geisio symud teithiwr heb ganiatâd nac awdurdod.
Mae’r achos yn parhau.