James Rowberry yw rheolwr newydd tîm pêl-droed Casnewydd.

Mae’n olynu Mike Flynn, oedd wedi gadael ei swydd yn ddiweddar.

Dywed Casnewydd y byddan nhw’n ei gyflwyno i’r wasg yfory (dydd Mercher, Hydref 20).

Yn gyn-chwaraewr ieuenctid ac yn gyn-hyfforddwr academi gyda’r Alltudion, fe fu’n hyfforddwr tîm cyntaf Caerdydd yn fwyaf diweddar, ac mae’r Adar Gleision wedi dymuno’n dda iddo mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe fydd e wrth y llyw am y tro cyntaf ar gyfer y gêm oddi cartref yn Bristol Rovers ddydd Sadwrn (Hydref 23).

Tra ei fod e yn yr eisteddle ar gyfer y gêm yn erbyn Caerliwelydd heno (nos Fawrth, Hydref 19), Wayne Hatswell sy’n arwain y tîm dros dro am y tro olaf.