Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi llofnodi’r Siarter Athletau Mwslemaidd – y corff pêl-droed cyntaf i wneud hynny.

Drwy lofnodi’r addewid, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymrwymo i gydnabod anghenion Mwslemaidd mewn pêl-droed i chwaraewyr, staff a chefnogwyr sy’n mynychu gemau.

Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn anelu at gael ei hachredu’n llawn i Siarter Athletau Mwslemaidd Chwaraeon Nujum yn y dyfodol.

Lansiwyd y siarter am y tro cyntaf ym mis Mehefin.

Cynhwysol

Dywedodd y prif weithredwr Ebadur Rahman y bydd y sefydliad yn cynorthwyo Cymdeithas Bêl-droed Cymru i “anelu at fod hyd yn oed yn fwy cynhwysol”.

“Ar ôl llofnodi’r addewid, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymuno â symudiad cadarnhaol o undod, cydraddoldeb a chydnabyddiaeth o’r cyfraniad y mae Mwslemiaid yn ei wneud i’w clybiau a’u timau priodol,” meddai.

“Mae Nujum yma i gefnogi clybiau proffesiynol a’u chwaraewyr, a chyfrannu’n gadarnhaol at eu hagenda cydraddoldeb ac amrywiaeth.”

Addoli

Dywedodd rheolwr cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a chywirdeb Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jason Webber wrth BBC Sport eu bod “wedi ymrwymo i adeiladu amgylchedd a diwylliant sy’n cefnogi pob ffydd”.

“Drwy ddefnyddio’r fframwaith Siarter Athletau Mwslemaidd a gweithio’n agos gyda Nujum Sports, byddwn yn sicrhau bod chwaraewyr Mwslemaidd yn cael eu cefnogi yn eu hamgylchedd i addoli eu ffydd wrth chwarae pêl-droed,” meddai.

“Ni ddylai crefydd a chred rhywun fod yn rhwystr a dylai pawb gael eu cefnogi mewn amgylchedd cynhwysol fel y gallant fod ynddyn nhw eu hunain.

“Credwn fod pêl-droed yn fan lle dylai pawb deimlo eu bod yn perthyn ac mae llofnodi’r Siarter yn ein symud yn nes at gyflawni’r weledigaeth hon.”