Sgoriodd Paul Mullin ddwy gôl wrth i Wrecsam sicrhau eu lle yn rownd gyntaf Cwpan yr FA.

2-0 oedd y sgôr yn erbyn Marine, clwb sydd wedi eu lleoli yn Crosby, Lerpwl, ac sy’n chwarae yn wythfed haen pêl-droed Lloegr.

Roedd y ddau dîm wedi cael gêm gyfartal 1-1 y tro cyntaf iddyn nhw herio ei gilydd ar gae Marine ym Mharc Rossett gan orfodi ail gymal.

Cafodd yr ail gymal ei chwarae dros y ffin yng nghartref Nantwich Town, Optimum Pay Stadium, gan fod gwaith ail osod yn cael ei wneud ar gae’r Cae Ras.

Fe fanteisiodd Mullin ar ei gyfle am y gôl agoriadol ar ôl 21 munud wrth iddo wyro’r bêl i’r gornel chwith.

Gwrthymosodiad

Methodd Owen Watkinson gyfle i unioni’r sgôr yn fuan wedyn.

Fe wnaeth Neil Kengni, oedd yn fywiog yn y gêm gyntaf, hefyd wastraffu cwpl o gyfleoedd gyda golwr Wrecsam Christian Dibble yn perfformio’n dda drwy gydol y gêm.

Daeth ail gôl Wrecsam o ganlyniad i wrthymosodiad ychydig wedi’r egwyl, gyda Mullin yn ffeindio cefn y rhwyd unwaith yn rhagor.

Bydd Wrecsam nawr yn herio Harrogate Town oddi cartref ar 6 Tachwedd gan obeithio parhau â’u rhediad.

“Proffesiynol”

Dywedodd rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson wrth BBC Sport Wales: “Roeddwn i’n meddwl ei fod yn berfformiad proffesiynol iawn gennym ni heno.

“Rwy’n falch iawn o gael y ddwy gôl a’r llechen lân, ond roedd y ffordd chwaraeon ni wedi fy mhlesio hefyd.

“Fe wnaethon ni ychydig o newidiadau, ac fe wnaeth y bechgyn a ddaeth i mewn yn dda iawn.”