Fe fydd prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg yn ymgymryd â chryn her yr wythnos hon, wrth iddo gerdded ledled Cymru mewn pâr o welingtons i godi arian er cof am ei fab ac i sicrhau lle chwarae i blant yn y stadiwm yng Ngerddi Sophia.

Bu farw Tom Maynard mewn amgylchiadau trasig yn 23 oed yn 2012, ac yntau erbyn hynny’n chwarae i Surrey ar ôl dechrau ei yrfa gyda Morgannwg. Ond mae cysylltiad y teulu’n ymestyn ymhellach o lawer na hynny, gyda’i dad Matthew wedi bod yn gapten ar y sir ac yn un o’r hoelion wyth am rai degawdau cyn ymuno â’r tîm hyfforddi.

Am ran helaeth o yrfa’i dad ac er pan oedd e’n ifanc, roedd yn beth cyffredin iawn i weld y Tom Maynard ifanc â bat yn ei law yn chwarae ar ymyl y cae neu’r darn glaswellt neu goncrid agosaf. A diolch i’r arian sydd wedi cael ei godi er cof amdano, fe fydd plant yn cael gwneud yr un fath ar ôl cyfnod hir heb gyfleusterau i gael gwneud hynny yng Ngerddi Sophia.

“Rhywbeth ddaru fy ngwraig feddwl amdano fo oedd o,” meddai Matthew Maynard wrth golwg360 am y cynlluniau i sicrhau rhwydi awyr agored i blant gael chwarae ar ymyl y cae.

“Roedden ni’n edrych ar beth i’w wneud fel gwaddol ar gyfer Tom.

Llun o un o'r stands yn y Stadiwm SWALEC
Gerddi Sophia, cartref Morgannwg yng Nghaerdydd

“Pan oedd o’n ifanc ac yn dŵad i lawr i’r criced, byddai bat a phêl gynno fo yn ei ddwylo, yn chwarae ar ymyl y cae yn y cefn lle mae’r pafiliwn rŵan.

“Does dim lle diogel yn y cae, felly dw i’n ddiolchgar iawn i Forgannwg am y rhwydi newydd hyn. Maen nhw’n fodlon i ni rannu’r gost oherwydd mae’r clwb am gael pedair rhwyd ond y peth pwysicaf oedd fod y clwb wedi cytuno y gellid agor dwy ohonyn nhw i’r cyhoedd, i hogiau a genod, i’r mamau a’r tadau gael mynd i fwrw pêl tra bod y gêm ymlaen.

 

“Nid dyna sydd wedi digwydd yma ers sawl blwyddyn, am resymau iechyd a diogelwch, am fod maes parcio yng nghefn y pafiliwn felly dydi cael peli’n hedfan o gwmpas yn fanno ddim yn beth da iawn.

“Ond mewn rhwydi, mi fydd o’n galluogi plant i chwarae cyhyd ag y maen nhw isio yn ystod y dydd, boed hynny yn ystod amser cinio neu amser te yn y gemau hir neu rhwng y ddau fatiad mewn gemau pêl wen.

“Ond o leia’ mae yno gyfle i blant ifanc neu unrhyw un gael chwarae a defnyddio cyfleusterau’r rhwydi.

“Gobeithio’i fod o am fod yn rhywbeth fydd yn annog mwy o deuluoedd i ddŵad i’r cae a defnyddio’r cyfleusterau yn ogystal â gwylio Morgannwg yn chwarae.”

‘Wellyman Walking’

Wellyman Walking
Logo her Wellyman Walking

Cafodd Matthew Maynard ei ysbrydoli gan ddyn tywydd poblogaidd y BBC wrth benderfynu ar natur yr her, fel yr eglura wrth golwg360.

“Ddaru’r syniad ddŵad, am wn i, o Weatherman Walking gan Derek Brockway,” meddai.

“A hefyd wrth gynllunio un her olaf ar gyfer Ymddiriedolaeth Tom Maynard a her bersonol, ddaru Tom chwarae ei gêm gyntaf ym Mae Colwyn a chafodd o ei eni yng Nghaerdydd, felly ro’n i’n meddwl mai dyna fyddwn i’n ei wneud – taith o Gaerdydd i Fae Colwyn gan gynnwys y Tri Chopa.

“Ond er mwyn rhoi gogwydd elusennol arni a’i gwneud hi ychydig yn fwy anodd, ei gwneud hi mewn welingtons hefyd, felly ddaru Wellyman Walking ddŵad o Weatherman Walking. Ddaru fi fwynhau cyfres Derek ar y BBC, felly o’r fan honno ddoth hi.”

Y daith

Bydd y daith fawr yn dechrau ddydd Gwener (Hydref 8), wrth i Matthew Maynard gerdded 25 milltir o Gaerdydd i Ferthyr Tudful.

Dros gyfnod o 12 diwrnod, fe fydd e’n cerdded 221 o filltiroedd ac yn dringo i gopaon mynyddoedd Pen-y-fan, Cader Idris a’r Wyddfa ac mae’n dweud ei fod e wedi cael cryn dipyn o gymorth i gynllunio llwybr y daith gerdded anarferol.

“Mae’r cerddwr David Morgan a Ray O’Neill sy’n gweithio efo Clwb Bechgyn a Merched Treharris wedi gwneud cryn dipyn o waith o amgylch y Bannau ac mae o wedi helpu’n arw efo’r llwybr a chreu cynllun, pob stop sy’n bosib wrth gadw oddi ar yr A470 gymaint â phosib.

“A hefyd wrth ddilyn llwybrau arbennig, er enghraifft rhwng Llanidloes a Machynlleth sydd yn mynd i fod yn hyfryd i’w ddilyn, Llwybr Glyndŵr, a byddwn ni’n dilyn tipyn o Daith Tâf i fyny i Aberhonddu ac mae tipyn o drawsgwlad a rhai ffyrdd hefyd.”

Y paratoi

Sut, felly, mae paratoi at y fath her?

“Ddaru fi gychwyn hyfforddi fis Ionawr, yn codi am 5.30yb a cherdded i’r gwaith a cherdded yn ôl yn ystod Ionawr, Chwefror a Mawrth jyst i gael y milltiroedd yn y coesau i gychwyn, efo trainers ac wedyn y welingtons – a ffeindio welingtons digon da!” meddai.

“Ddaru fi lwyddo i ffeindio ambell bâr ac yn ystod y tymor, ddaru fi gerdded i’r caeau lle’r oedd hynny’n bosib.

Matthew Maynard ar ben mynydd Pen-y-fan
Matthew Maynard ar gopa Pen-y-fan

“Yr un pellaf oedd Durham, oedd yn rhyw saith milltir, ac mae’n rhyw saith milltir i gerdded i Erddi Sophia o lle dw i’n byw hefyd, felly dw i jyst wedi bod yn cadw i fynd efo taith gerdded reit hir ar ddiwrnodau i ffwrdd, efallai’r mynydd lle dw i’n byw neu ymhellach na hynny.

“Felly dw i wedi ffitio’r milltiroedd i mewn, wedi torri’r welingtons i mewn yn berffaith, maen nhw’n barod ac mae digon o filltiroedd ynddyn nhw o hyd – gobeithio!

“Bydd hi’n ddiddorol gweld faint o bobol fydd yn troi i fyny, oherwydd mae llawer o bobol wedi dweud eu bod nhw am gymryd rhan am ychydig.

“Fore Gwener, y diwrnod cyntaf, mae’n rhyw 25 neu 26 o filltiroedd i gastell Cyfarthfa – fydd hi ddim yn dro hawdd! Y lleia’ fedra i fod ar fy nhraed, gorau oll am wn i.

“Mae gynnon ni ddeuddydd hir i gychwyn ond mae’r ail ddiwrnod am fod yn un anodd rhwng Merthyr ac Aberhonddu. Wnes i roi cynnig arni y diwrnod o’r blaen, mae’n llwybr da, dim ffyrdd fel y cyfryw uwchlaw’r rheilffordd, Rheilffordd y Bannau ac i fyny i Gribyn cyn mynd i fyny i gopa Pen-y-fan ac i lawr i Aberhonddu.”

Y codi arian yn dod i ben

Hwn fydd y digwyddiad mawr olaf ar ôl degawd o godi arian ond fe fydd Ymddiriedolaeth Tom Maynard yn sicrhau bod ei waddol yn parhau.

“Credwch neu beidio, mi fydd deng mlynedd wedi mynd heibio y flwyddyn nesaf ers colli Tom a dw i’n meddwl, fel teulu, ei fod o wedi bod yn gynhaliaeth wych hyd yn hyn,” meddai ei dad wedyn.

“Ond dw i hefyd yn credu bod gan elusen o’r fath hyn a hyn o amser, ac mae deng mlynedd yn berffaith, mewn gwirionedd.

“Ddaru ni gychwyn efo’r bwriad o godi £250,000 dros 55 mis [55 oedd y rhif ar gefn crys Tom yn Surrey].

Gêm flynyddol Ymddiriedolaeth Tom Maynard
Un o gemau blynyddol Ymddiriedolaeth Tom Maynard yng Nghlwb Criced Sain Ffagan

“A’i ymestyn o a’i ymestyn o ond rŵan, mae elusennau eraill wedi dod i fodolaeth ac mi fydden ni’n hoffi eu cefnogi nhw.

“I bob pwrpas, bydd yr Ymddiriedolaeth yn dirwyn i ben ar ôl y gêm griced flynyddol y flwyddyn nesaf, a dyna fydd y digwyddiad olaf i godi arian. Bydd yr arian o honno’n mynd at raglenni addysg rydan ni eisoes wedi cytuno i’w hariannu.

“Ond pan ddaw’r arian i ben, fydd dim rhagor o godi arian at yr Ymddiriedolaeth ac mi fyddwn ni’n dirwyn yr Ymddiriedolaeth i ben. Rydan ni wedi codi ymhell dros £500,000 yn barod.”

… ond y gwaddol yn parhau

Yn ôl Matthew Maynard, nid yn unig criced a chricedwyr sydd wedi elwa o waith yr Ymddiriedolaeth, ond chwaraewyr a chymdeithasau mewn campau eraill hefyd.

“O rygbi, tenis, rygbi’r gynghrair, rygbi’r undeb, rygbi yng Nghymru, rygbi yn Iwerdddon, mae o wedi cyrraedd ymhellach o lawer nag y bydden ni wedi medru’i ddychmygu,” meddai.

“Rydan ni wedi helpu ambell joci, pencampwriaethau frisbee… Mae o wedi bod yn anhygoel wrth gyrraedd unigolion a chymdeithasau ac rydan ni’n falch iawn o hynny fel teulu.”

Ben Duckett yn batio
Mae Ben Duckett ymhlith y chwaraewyr rhyngwladol sydd wedi cael cymorth Ymddiriedolaeth Tom Maynard

Ac fe fydd y gwaith criced yn parhau hefyd, nid lleiaf yn La Manga yn Sbaen, sydd wedi bod yn gyrchfan i nifer fawr o gricedwyr sydd wedi elwa o waith yr Ymddiriedolaeth ac i nifer o’r siroedd dosbarth cyntaf sydd wedi gallu manteisio ar y cyfleusterau yno cyn dechrau’r tymhorau criced.

“Rydan ni’n lwcus iawn o fod wedi cael cefnogaeth ar gyfer y gwersylloedd criced ddaru ni eu rhedeg fis Chwefror bob blwyddyn,” meddai wedyn.

“Yn syml, roeddan nhw’n cymryd chwaraewyr academi ifainc neu chwaraewyr ym mlwyddyn gyntaf eu cytundebau efo’r siroedd ac yn mynd â nhw i le o’r enw Desert Springs.

“Ni [Morgannwg] oedd y sir gyntaf i fynd draw i Desert Springs i ddefnyddio’r cyfleusterau ac ar ôl pum mlynedd o wneud hynny, chwaraeon ni gêm yn erbyn y Sbaenwyr yn La Manga.

“Roedd o’n rywbeth oedd yn gwneud i mi deimlo’n falch iawn fod bron bob sir yn mynd â’u chwaraewyr ifainc dramor i gael y profiad o chwarae yno.

 

“Roedd Ian Harvey [cyn-brif hyfforddwr Swydd Gaerloyw] yn hyfforddi ar bob un ohonyn nhw, roeddan ni wedi cael Paul Nixon [cyn-wicedwr Lloegr] a Mark Wallace [Cyfarwyddwr Criced Morgannwg] yn dod i’w helpu nhw hefyd ac roedd cymysgedd go dda o hyfforddwyr ac unigolion.

Gêm griced
Cricedwyr yn La Manga

“Ddaru Jamie Dalrymple [cyn-gapten Morgannwg] gymryd sesiwn seicoleg ac arweinyddiaeth efo’r chwaraewyr, felly doedd o ddim jyst yn rhwydi ond hefyd, addysgu’r hogiau am wahanol agweddau ar griced yn ogystal â bywyd y tu allan i griced.

“Ro’n i’n falch iawn o’r pum mlynedd ddaru ni redeg y rhaglen honno ac yn falch iawn o weld bod y siroedd yn cymryd perchnogaeth ac yn mynd â chwaraewyr academi a chwaraewyr ifainc dramor er mwyn magu profiad.

“Gobeithio’i fod o wedi helpu rhai o’r chwaraewyr hynny sydd wedi mynd yn eu blaenau i chwarae criced dosbarth cyntaf.

“Ac rydan ni wedi cael wyth cricedwr rhyngwladol yn dod drwy’r rhaglen honno hefyd.

“Gwych os ydan ni wedi’u helpu nhw ychydig bach.”

Beicio er cof am Bethan

Bethan James
Bethan James

Fis Chwefror y llynedd, wynebodd un arall o gyn-gricedwyr Morgannwg drasiedi bersonol.

Yn 21 oed, bu farw Bethan James, merch y cyn-gapten Steve James oedd yn gyd-aelod o dîm Morgannwg gyda Matthew Maynard.

Ac mae yntau wedi bod yn brysur yn cwblhau her elusennol yn ddiweddar hefyd, wrth feicio o Gaerdydd i Arberth at elusen Crohn’s & Colitis UK.

Mae e eisoes wedi codi bron i £18,000 ar ôl cwblhau’r daith ar gefn ei feic ar Awst 28, dyddiad pen-blwydd Bethan, ac mae’n dweud y bydd honno hefyd yn daith flynyddol.

Darllenwch ragor am her Steve James