Mae clwb pêl-droed Wrecsam wedi torri eu record am y nifer uchaf o gefnogwyr mewn gêm Cynghrair Genedlaethol Lloegr.

Fe wnaeth 9,147 o’u cefnogwyr fynychu’r gêm gyfartal yn erbyn Chesterfield nos Fawrth, (5 Hydref), gyda 549 o gefnogwyr oddi cartref yn teithio o ganolbarth Lloegr i’r Cae Ras.

Dyma hefyd oedd y nifer uchaf o gefnogwyr mewn gêm gynghrair ganol wythnos i’r clwb ers 1979.

Er y byddai Wrecsam wedi ffafrio buddugoliaeth cyn y gêm, gôl hwyr gan Paul Mullin wnaeth sicrhau pwynt iddyn nhw, ar ôl i Chesterfield reoli’r gêm yn yr hanner cyntaf.

Gallai Aaron Hayden fod wedi sgorio gôl fuddugol i’r Dreigiau, ond tarodd ei ergyd y trawst, a bu’n rhaid setlo am bwynt – sy’n eu cadw nhw yn y 12fed safle.

Taith i Lannau Merswy sy’n wynebu Wrecsam nesaf, wrth iddyn nhw chwarae Marine yn rowndiau rhagbrofol Cwpan yr FA ar 16 Hydref.